Adrannau 101 – 105 - Apelau i banel apelau cofrestru ac apelau i’r tribiwnlys
155.Mae’n ofynnol i baneli apelau cofrestru adolygu’r penderfyniadau a wneir gan y cofrestrydd mewn perthynas â chofrestru a gwneud penderfyniadau ynghylch a ddylai cofnodion unigolion gael eu hadfer i’r gofrestr ar ôl iddynt gael eu dileu gan banel addasrwydd i ymarfer.
156.Mae adran 104 yn cyflwyno hawl bellach i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad y panel. Gall y Tribiwnlys wrando apelau ar faterion cyfreithiol a ffeithiol ac mae ganddo siambr sy’n arbenigo mewn delio â materion gofal cymdeithasol.