RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 1CYFLWYNIAD
1Trosolwg o Ran 1
Yn y Rhan hon—
a
mae’r Bennod hon yn diffinio rhai termau allweddol gan gynnwys yr hyn a olygir wrth “gwasanaeth rheoleiddiedig” yn y Ddeddf hon ac yn nodi amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheoleiddio gwasanaethau o’r fath;
b
mae Pennod 2 yn nodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chofrestru personau sy’n darparu gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys darpariaeth ynghylch amrywio a chanslo cofrestriadau a darpariaeth ynghylch hysbysiadau ac apelau;
c
mae Pennod 3 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu a’u pwerau i gynnal arolygiadau;
d
mae Pennod 4 yn rhoi rhai swyddogaethau cyffredinol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig;
e
mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a chosbau;
f
mae Pennod 6 yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (gweler Atodlen 2 i Ddeddf 2014 am hyn) gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—
i
adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol;
ii
pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau o’r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer;
iii
pwerau sy’n caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd a ddefnyddir mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny;
iv
pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaethau hynny gael ei darparu;
v
troseddau mewn cysylltiad ag arolygiadau neu ofynion i ddarparu gwybodaeth;
vi
pwerau i Weinidogion Cymru i reoleiddio’r arferiad o’r swyddogaethau awdurdod lleol hynny sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;
g
mae Pennod 7 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru fonitro cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau penodol a llunio a chyhoeddi adroddiadau ynghylch sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
2Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”
1
Yn y Ddeddf hon, ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” yw—
a
gwasanaeth cartref gofal,
b
gwasanaeth llety diogel,
c
gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,
d
gwasanaeth mabwysiadu,
e
gwasanaeth maethu,
f
gwasanaeth lleoli oedolion,
g
gwasanaeth eirioli,
h
gwasanaeth cymorth cartref, ac
i
unrhyw wasanaeth arall sy’n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir.
2
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr termau a ddefnyddir yn is-adran (1).
3
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.
4
Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
3Termau allweddol eraill
1
Yn y Ddeddf hon—
a
ystyr “gofal” yw gofal sy’n ymwneud ag—
i
tasgau ac anghenion corfforol beunyddiol y person y gofelir amdano (er enghraifft, bwyta ac ymolchi), a
ii
y prosesau meddyliol sy’n ymwneud â’r tasgau a’r anghenion hynny (er enghraifft, y broses feddyliol o gofio bwyta ac ymolchi);
b
ystyr “swyddogaethau rheoleiddiol” yw swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan—
i
y Rhan hon,
ii
adrannau 94A a 149A i 161B o Ddeddf 2014, a
iii
adran 15 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) (arolygu mangreoedd sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu),
ond nid yw unrhyw swyddogaeth o wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth (fel y’i diffinnir gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)) yn swyddogaeth reoleiddiol;
c
ystyr “darparwr gwasanaeth” yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig;
d
ystyr “cymorth” yw cwnsela, cyngor neu help arall, a ddarperir fel rhan o gynllun a luniwyd ar gyfer y person sy’n cael cymorth gan—
i
ddarparwr gwasanaeth neu berson arall sy’n darparu gofal a chymorth i’r person, neu
ii
awdurdod lleol (hyd yn oed os nad yw’r awdurdod yn darparu gofal a chymorth i’r person).
2
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “gofal a chymorth” i’w darllen fel cyfeiriadau at—
a
gofal,
b
cymorth, neu
c
gofal a chymorth.
3
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf is-adran (1)(a) a (d), i’w trin fel gofal a chymorth at ddibenion y Ddeddf hon.
4Amcanion cyffredinol
Amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon yw—
a
diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig, a
b
hybu a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig.