xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o Ran 1

Yn y Rhan hon—

(a)mae’r Bennod hon yn diffinio rhai termau allweddol gan gynnwys yr hyn a olygir wrth “gwasanaeth rheoleiddiedig” yn y Ddeddf hon ac yn nodi amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru mewn perthynas â rheoleiddio gwasanaethau o’r fath;

(b)mae Pennod 2 yn nodi swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chofrestru personau sy’n darparu gwasanaethau rheoleiddiedig, gan gynnwys darpariaeth ynghylch amrywio a chanslo cofrestriadau a darpariaeth ynghylch hysbysiadau ac apelau;

(c)mae Pennod 3 yn nodi pwerau Gweinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu a’u pwerau i gynnal arolygiadau;

(d)mae Pennod 4 yn rhoi rhai swyddogaethau cyffredinol i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau rheoleiddiedig;

(e)mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau a chosbau;

(f)mae Pennod 6 yn diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (gweler Atodlen 2 i Ddeddf 2014 am hyn) gan gynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—

(i)adroddiadau blynyddol gan awdurdodau lleol;

(ii)pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau o’r ffordd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer;

(iii)pwerau sy’n caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd a ddefnyddir mewn cysylltiad ag arfer y swyddogaethau hynny;

(iv)pwerau i Weinidogion Cymru i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer y swyddogaethau hynny gael ei darparu;

(v)troseddau mewn cysylltiad ag arolygiadau neu ofynion i ddarparu gwybodaeth;

(vi)pwerau i Weinidogion Cymru i reoleiddio’r arferiad o’r swyddogaethau awdurdod lleol hynny sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(g)mae Pennod 7 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru fonitro cynaliadwyedd ariannol darparwyr gwasanaethau penodol a llunio a chyhoeddi adroddiadau ynghylch sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

2Ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig”

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” yw—

(a)gwasanaeth cartref gofal,

(b)gwasanaeth llety diogel,

(c)gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd,

(d)gwasanaeth mabwysiadu,

(e)gwasanaeth maethu,

(f)gwasanaeth lleoli oedolion,

(g)gwasanaeth eirioli,

(h)gwasanaeth cymorth cartref, ac

(i)unrhyw wasanaeth arall sy’n cynnwys y ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch ystyr termau a ddefnyddir yn is-adran (1).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r pethau nad ydynt, er gwaethaf Atodlen 1, i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig at ddibenion y Ddeddf hon.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

3Termau allweddol eraill

(1)Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “gofal” yw gofal sy’n ymwneud ag—

(i)tasgau ac anghenion corfforol beunyddiol y person y gofelir amdano (er enghraifft, bwyta ac ymolchi), a

(ii)y prosesau meddyliol sy’n ymwneud â’r tasgau a’r anghenion hynny (er enghraifft, y broses feddyliol o gofio bwyta ac ymolchi);

(b)ystyr “swyddogaethau rheoleiddiol” yw swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan—

(i)y Rhan hon,

(ii)adrannau 94A a 149A i 161B o Ddeddf 2014, a

(iii)adran 15 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) (arolygu mangreoedd sy’n ymwneud â gwasanaethau mabwysiadu),

ond nid yw unrhyw swyddogaeth o wneud, cadarnhau neu gymeradwyo is-ddeddfwriaeth (fel y’i diffinnir gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)) yn swyddogaeth reoleiddiol;

(c)ystyr “darparwr gwasanaeth” yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 i ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig;

(d)ystyr “cymorth” yw cwnsela, cyngor neu help arall, a ddarperir fel rhan o gynllun a luniwyd ar gyfer y person sy’n cael cymorth gan—

(i)ddarparwr gwasanaeth neu berson arall sy’n darparu gofal a chymorth i’r person, neu

(ii)awdurdod lleol (hyd yn oed os nad yw’r awdurdod yn darparu gofal a chymorth i’r person).

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at “gofal a chymorth” i’w darllen fel cyfeiriadau at—

(a)gofal,

(b)cymorth, neu

(c)gofal a chymorth.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi pethau nad ydynt, er gwaethaf is-adran (1)(a) a (d), i’w trin fel gofal a chymorth at ddibenion y Ddeddf hon.

4Amcanion cyffredinol

Amcanion cyffredinol Gweinidogion Cymru wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon yw—

(a)diogelu, hybu a chynnal diogelwch a llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig, a

(b)hybu a chynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau rheoleiddiedig.