xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5LL+CTROSEDDAU A CHOSBAU

43Methiant i gydymffurfio ag amodLL+C

(1)Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod sy’n ymwneud â chofrestriad y darparwr sydd mewn grym am y tro yn rhinwedd y Rhan hon.

(2)Ond nid yw darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) drwy fethu â chael unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn cysylltiad ag ef—

(a)os nad yw’r terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd), neu

(b)os yw’r terfyn amser hwnnw wedi dod i ben ond gwnaeth y darparwr gwasanaeth y cais am amrywiad o fewn y terfyn amser ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 43 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

44Disgrifiadau anwirLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o dwyllo person arall—

(a)esgus bod yn ddarparwr gwasanaeth,

(b)esgus bod man yn un y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef, neu

(c)esgus bod yn unigolyn cyfrifol.

(2)Caiff unrhyw un neu ragor o’r canlynol (ymhlith pethau eraill) fod yn weithred sy’n gyfystyr â throsedd o dan is-adran (1)—

(a)cymhwyso enw at wasanaeth neu fan i roi’r argraff ei fod wedi ei bennu yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(b)disgrifio gwasanaeth neu fan mewn modd sy’n bwriadu rhoi’r argraff honno;

(c)honni bod gwasanaeth yn wasanaeth rheoleiddiedig a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(d)honni bod man yn fan a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;

(e)gweithredu mewn modd sy’n rhoi’r argraff o fod yn unigolyn cyfrifol pan nad yw wedi ei ddynodi’n unigolyn o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 44 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

45Methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 neu 37(2)(a).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 45 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

46Methiant gan unigolyn cyfrifol i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadauLL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ei bod yn drosedd i unigolyn cyfrifol fethu â chydymffurfio â darpariaeth benodedig mewn rheoliadau a wneir o dan adran 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 46 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

47Datganiadau anwirLL+C

Mae’n drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn—

(a)cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth,

(b)cais i amrywio neu i ganslo cofrestriad,

(c)datganiad blynyddol a gyflwynir o dan adran 10, neu

(d)ymateb i ofyniad a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 47 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

48Methiant i gyflwyno datganiad blynyddolLL+C

Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chyflwyno datganiad blynyddol i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a ragnodir o dan adran 10(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 48 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

49Methiant i ddarparu gwybodaethLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1).

(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14A. 49 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

50Troseddau sy’n gysylltiedig ag arolygiadauLL+C

(1)Mae’n drosedd i berson—

(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro arolygydd rhag arfer unrhyw swyddogaeth a roddir i arolygydd gan Bennod 3, neu

(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n arfer swyddogaeth o’r fath.

(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I16A. 50 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

51Cosbau ar gollfarnLL+C

(1)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 5, 43, 44, 47, 49 neu 50 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 48 yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I18A. 51 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

52Hysbysiadau cosbLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson os ydynt wedi eu bodloni bod y person wedi cyflawni trosedd ragnodedig.

(2)Dim ond troseddau o dan adrannau 47, 48 neu 49 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 y caniateir iddynt gael eu rhagnodi felly.

(3)Mae hysbysiad cosb yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person i ryddhau unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu i Weinidogion Cymru swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad.

(4)Pan fo person yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei ddwyn cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(5)Os yw person sy’n cael hysbysiad cosb yn talu’r swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad, ni all y person gael ei gollfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

(6)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—

(a)o ran ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb;

(b)o ran y swm sy’n daladwy o dan hysbysiad cosb a’r amser y mae’r swm i gael ei dalu ynddo (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i swm gwahanol fod yn daladwy mewn perthynas â throseddau gwahanol ac yn unol â’r amser erbyn pryd y caiff y swm ei dalu);

(c)sy’n penderfynu ar y ffyrdd y caniateir i swm gael ei dalu ynddynt;

(d)o ran y cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â hysbysiadau cosb;

(e)ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—

(i)ad-dalu unrhyw swm a delir cyn y tynnir hysbysiad yn ôl, a

(ii)yr amgylchiadau pan na chaniateir i achos am drosedd gael ei ddwyn er bod hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

(7)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) wneud darpariaeth i swm fod yn daladwy o dan hysbysiad cosb sy’n fwy na dwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I20A. 52 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

53Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir odani wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2)Mae person a grybwyllir yn is-adran (3) hefyd yn cyflawni’r drosedd os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y person hwnnw neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.

(3)Y personau hynny yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol,

(b)pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod, neu

(c)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.

(4)Pan fo corff corfforaethol yn awdurdod lleol, mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd yn y corff i’w ddarllen fel cyfeiriad at swyddog neu aelod o’r awdurdod.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I22A. 53 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

54Troseddau gan gyrff anghorfforedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i droseddau o dan y Rhan hon ac o dan reoliadau a wneir odani.

(2)Caniateir i achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw’r corff yn lle yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforaethol.

(3)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei gollfarnu o drosedd i’w thalu o gronfeydd y corff hwnnw.

(4)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn cael effaith fel pe bai corff corfforaethol wedi ei gyhuddo.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I24A. 54 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)

55Achosion am droseddauLL+C

(1)Ni chaniateir i achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani, heb gydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gael ei ddwyn gan unrhyw berson ac eithrio’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.

(2)Rhaid i achos diannod mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos.

(3)Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn fwy na tair blynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I26A. 55 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)