Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

RHAN 11LL+CDARPARIAETHAU TERFYNOL

185Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Atodlen 3 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 185 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 185 mewn grym ar 6.4.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/467, ergl. 2

I3A. 185 mewn grym ar 6.4.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/467, ergl. 3

I4A. 185 mewn grym ar 3.4.2017 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/309, ergl. 2(j) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

I5A. 185 mewn grym ar 2.4.2018 at ddibenion penodedig gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod.

I6A. 185 mewn grym ar 29.4.2019 at ddibenion penodedig gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(d), Atod.

186Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth ganlyniadol, gysylltiedig, drosiannol, ddarfodol neu arbed sy’n briodol yn eu barn hwy at ddibenion y Ddeddf hon neu mewn cysylltiad â hi.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, dirymu neu ddiddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol neu sydd wedi ei wneud odani.

(3)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu deddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

(5)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(6)Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gan gynnwys y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 186 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)

187Rheoliadau o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol, ar gyfer achosion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.

(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn sy’n cynnwys y rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)adran 2(1)(i) (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau gofal a chymorth eraill fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

(b)adran 2(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gwasanaethau rheoleiddiedig);

(c)adran 3(3) (rheoliadau sy’n rhagnodi pethau nad ydynt i’w trin fel gofal a chymorth);

(d)adran 9(9) (rheoliadau sy’n amrywio’r dystiolaeth sydd i’w hystyried wrth ddyfarnu a yw person yn berson addas a phriodol);

(e)adran 11(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi terfyn amser y mae rhaid gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol amnewidiol ynddo);

(f)adran 27(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau);

(g)adran 28(1) (rheoliadau sy’n gosod gofynion ar unigolion cyfrifol);

(h)adran 37(1) (rheoliadau ynghylch graddau arolygu);

(i)adran 40(1) (rheoliadau ynghylch codi ffioedd);

(j)adran 45 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau);

(k)adran 46 (rheoliadau sy’n creu troseddau am fethu â chydymffurfio â gofynion a osodir ar unigolion cyfrifol);

(l)adrannau 59(1) a (4) a 61(6) a (9) (rheoliadau ynghylch y gyfundrefn trosolwg o’r farchnad);

(m)adran 79(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o bersonau sydd i’w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol);

(n)adran 80(1)(b) (rheoliadau sy’n rhagnodi disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae rhaid i GCC gadw cofrestr mewn cysylltiad â hwy);

(o)adran 111(2) (rheoliadau sy’n rhagnodi teitlau a ddiogelir ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eithrio gweithwyr cymdeithasol);

(p)adran 117 (diwygio ar ba seiliau y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer);

(q)adran 130 (trefniadau ar gyfer cyfryngu);

(r)adran 136(2)(d) (personau y caniateir i ymgymeriadau gael eu datgelu iddynt gan GCC);

(s)adran 142 (diwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu materion);

(t)adran 165 (dynodi gweithgareddau rheoleiddiedig etc. at ddibenion gorchmynion gwahardd o dan Ran 7);

(u)adran 171(3) (creu troseddau mewn perthynas â chyflogi neu benodi personau sy’n ddarostyngedig i orchmynion gwahardd etc.);

(v)adran 177(1)(h) (rheoliadau sy’n rhagnodi personau eraill yn awdurdodau perthnasol at ddibenion Rhan 9);

(w)paragraff 7 o Atodlen 1 (rheoliadau sy’n pennu gwasanaethau penodol fel gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig).

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i ddiddymiad yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan adran 186.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 187 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)

188Dod i rymLL+C

(1)Daw darpariaethau’r Ddeddf hon (ac eithrio’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190) i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(2)Mae’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190 yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion neu ardaloedd gwahanol;

(b)cynnwys unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 188 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)

189Dehongli cyffredinolLL+C

Yn y Ddeddf hon—

  • ystyr “a ragnodir” a “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ebrill ac sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2006;

  • ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4);

  • mae i “GCC” (“SCW”) yr ystyr a roddir gan adran 67;

  • mae i “llesiant” (“well-being”) yr un ystyr ag yn adran 2 o Ddeddf 2014;

  • ystyr “rhybuddiad” (“caution”), mewn perthynas â throsedd, yw—

    (a)

    rhybuddiad amodol a roddir o dan adran 22 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44) (rhybuddiadau amodol ar gyfer oedolion) neu o dan adran 66A o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998 (p.37) (rhybuddiadau amodol ar gyfer plant a phobl ifanc);

    (b)

    unrhyw rybuddiad arall a roddir i berson yng Nghymru a Lloegr mewn cysylltiad â throsedd a gyfaddefwyd gan y person hwnnw ar yr adeg y rhoddir y rhybuddiad;

    (c)

    unrhyw beth sy’n cyfateb i rybuddiad sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) (sut bynnag y’i disgrifir)—

    (i)

    a roddir i berson mewn cysylltiad â thramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei chyflawni yng Nghymru a Lloegr, a

    (ii)

    nad yw’n fesur y caniateir ei roi yn lle erlyniad (o fewn ystyr “alternative to prosecution” yn adran 8AA o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (p.53));

  • ystyr “y tribiwnlys” (“the tribunal”) yw’r tribiwnlys Haen Gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 189 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)

190Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 190 mewn grym ar 19.1.2016, gweler a. 188(2)