Parhad Cyngor Gofal Cymru a’i ailenwiLL+C
67Gofal Cymdeithasol CymruLL+C
(1)Mae adran 54 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diddymu.
(2)Mae’r corff corfforaethol a elwir Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan yr adran honno i barhau i fodoli.
(3)Ond mae wedi ei ailenwi, a’i enw yw Gofal Cymdeithasol Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “GCC”).
(4)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch GCC.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 67 mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2