RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru
78Pwerau diofyn Gweinidogion Cymru
(1)
Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn arferadwy gan Weinidogion Cymru os ydynt wedi eu bodloni bod GCC—
(a)
wedi methu heb esgus rhesymol â chyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, neu
(b)
wrth gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, wedi methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 77 mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi datganiad sy’n datgan bod GCC wedi methu, a
(b)
cyfarwyddo GCC i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau, mewn unrhyw fodd ac o fewn unrhyw gyfnod neu gyfnodau, a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)
Os yw GCC yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
cyflawni’r swyddogaethau y mae’r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy eu hunain, neu
(b)
gwneud trefniadau i unrhyw berson arall gyflawni’r swyddogaethau hynny ar eu rhan.
(4)
O ran cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(b)—
(a)
rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b)
caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd dilynol.