Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Adnewyddu cofrestriad yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestrLL+C

86Adnewyddu cofrestriadLL+C

(1)Caiff GCC drwy reolau—

(a)darparu mai dim ond am gyfnod a bennir yn y rheolau y mae cofnod yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn cael effaith, a

(b)gwneud darpariaeth ar gyfer adnewyddu cofnod o’r fath yn y gofrestr.

(2)Pan fo rheolau wedi eu gwneud o dan is-adran (1), rhaid i’r cofrestrydd, ar gais y person y mae’r cofnod yn ymwneud ag ef, ganiatáu cais i adnewyddu—

(a)os yw’r cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir gan reolau a wneir gan GCC,

(b)os yw’r ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac

(c)os yw’r cofrestrydd wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion adnewyddu.

(3)Y gofynion adnewyddu yw—

(a)bod yr ymgeisydd wedi bodloni unrhyw ofynion i gyflawni hyfforddiant pellach a osodir gan reolau a wneir o dan adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus), a

(b)bod yr ymgeisydd yn bwriadu ymarfer y gwaith y mae ei gais am adnewyddu yn ymwneud ag ef.

(4)Caiff rheolau a wneir o dan adran 83(3) (meini prawf ar gyfer dyfarniadau’r cofrestrydd ynghylch bwriad ymgeisydd i ymarfer) gynnwys darpariaeth ynghylch dyfarniad cofrestrydd o dan is-adran (3)(b) o’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 86 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 86 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

87Darfodiad cofrestriadLL+C

(1)Mae cofrestriad person yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr yn darfod ar ddiwedd y cyfnod a bennir gan GCC mewn rheolau o dan adran 86(1)(a) os nad yw’r person wedi adnewyddu ei gofrestriad yn unol â rheolau a wneir gan GCC o dan adran 86(1)(b).

(2)Ond nid yw cofrestriad person yn darfod o dan is-adran (1) os yw is-adran (3) yn gymwys i’r person.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)sy’n ddarostyngedig i unrhyw achosion o dan Ran 6, gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2 o’r Rhan honno, sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith y mae ei gofrestriad yn ymwneud ag ef (“y gwaith perthnasol”);

(b)y gwneir penderfyniad mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol y caniateir i apêl gael ei gwneud yn ei erbyn o dan adran 158 (apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer);

(c)y mae gorchymyn cofrestru amodol mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);

(d)y mae gorchymyn atal dros dro mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);

(e)y mae gorchymyn interim mewn cysylltiad ag ef sy’n ymwneud â’r gwaith perthnasol yn cael effaith o dan adran 144 neu 147.

(4)Mae is-adran (2) yn peidio â bod yn gymwys i berson a ddisgrifir yn is-adran (3)(b)—

(a)ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn adran 158(3) ar gyfer gwneud apêl, neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, pan ddyfernir ar yr apêl.

(5)Mae person y byddai ei gofrestriad yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr wedi darfod o dan is-adran (1) oni bai am is-adran (2) i’w drin fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (6), er gwaethaf bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(6)Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddibenion unrhyw achosion o dan Ran 6 (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer y gwaith perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 87 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 87 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)