Search Legislation

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 23/02/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, Croes Bennawd: Apelau i banel apelau cofrestru. Help about Changes to Legislation

Apelau i banel apelau cofrestruLL+C

101Apelau yn erbyn penderfyniadau’r cofrestryddLL+C

(1)Caiff person wneud apêl i banel apelau cofrestru yn erbyn penderfyniad gan y cofrestrydd—

(a)o dan adran 83 i beidio â chaniatáu cais y person i gofrestru;

(b)o dan adran 86 i beidio â chaniatáu cais y person i adnewyddu ei gofrestriad;

(c)i ddileu cofnod mewn cysylltiad â’r person o’r gofrestr o dan adran 94;

(d)o dan adran 96 i beidio â chaniatáu cais y person i adfer ei gofnod i’r gofrestr.

(2)Ond ni chaniateir i berson apelio yn erbyn penderfyniad a grybwyllir yn is-adran (1)(a), (b) neu (d) os yr unig reswm dros wneud y penderfyniad hwnnw oedd i’r person fethu—

(a)â thalu unrhyw ffi sy’n ofynnol gan GCC mewn cysylltiad â’r cais,

(b)â gwneud y cais ar y ffurf ac yn y modd sy’n ofynnol gan GCC, neu

(c)â darparu dogfennau neu wybodaeth i ategu’r cais sy’n ofynnol gan y cofrestrydd.

[F1(3)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—

(a)penderfyniad gan y cofrestrydd i wrthod cofrestru person o dan adran 83A, neu

(b)penderfyniad gan y cofrestrydd i ddirymu cofrestriad person o dan yr adran honno.]

Diwygiadau Testunol

F1A. 101(3) wedi ei fewnosod (dd.) (25.3.2020) yn rhinwedd Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(1), Atod. 5 para. 2(4)(b) (ynghyd ag aau. 89, 90) (subject to expiry yn unol â a. 89(1)(2)(d) of the modifying Deddf)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 101 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

102Apelau i’r panel apelau cofrestru: y weithdrefnLL+C

(1)Rhaid i apêl o dan adran 101 gael ei gwneud drwy roi hysbysiad apelio i’r cofrestrydd.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol.

(3)Ond caiff y cofrestrydd ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rhesymau da dros fethu â rhoi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran rhoi hysbysiad ar ôl yr amser priodol).

(4)Yn is-adran (2) ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

(a)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn is-adran 101(1)(a) neu (b), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 89,

(b)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(c), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 94, ac

(c)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(d), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 96.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 102 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

103Penderfyniadau ar apêl i’r panel apelau cofrestruLL+C

Ar apêl o dan adran 101, caiff panel apelau cofrestru—

(a)cadarnhau penderfyniad y cofrestrydd,

(b)rhoi penderfyniad arall o fath y gallai’r cofrestrydd fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

(c)anfon yr achos yn ôl at y cofrestrydd i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r panel.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 103 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

Back to top

Options/Help

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open the Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?