RHAN 5GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: SAFONAU YMDDYGIAD, ADDYSG ETC.

I1I6112Codau ymarfer

1

Rhaid i GCC lunio, a chyhoeddi o dro i dro, godau ymarfer sy’n pennu—

a

safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr gofal cymdeithasol;

b

safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth bersonau sy’n cyflogi neu sy’n ceisio cyflogi gweithwyr gofal cymdeithasol.

2

Caiff y codau wneud darpariaeth wahanol mewn cysylltiad â chategorïau gwahanol o weithiwr gofal cymdeithasol.

3

Caiff y codau hefyd bennu’r safonau ymddygiad ac ymarfer a ddisgwylir oddi wrth weithwyr cymdeithasol wrth gyflawni swyddogaethau gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd (o fewn ystyr “approved mental health professional” yn adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20)).

4

Rhaid i GCC

a

cadw’r codau o dan adolygiad, a

b

amrywio eu darpariaethau pa bryd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny.

5

Pan honnir bod person sydd wedi ei gofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw safon sydd wedi ei chynnwys mewn cod a wneir o dan yr adran hon—

a

nid yw’r methiant hwnnw, ynddo’i hun, i’w gymryd fel pe bai’n berfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol neu gamymddwyn difrifol at ddibenion adran 117 (addasrwydd i ymarfer), ond

b

caniateir i’r methiant hwnnw gael ei ystyried mewn achosion o dan y Ddeddf hon sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer.

6

Rhaid i awdurdod lleol sy’n gwneud unrhyw benderfyniad ynghylch ymddygiad unrhyw weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n eu cyflogi, os y’i cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i wneud hynny, ystyried unrhyw god a gyhoeddir gan GCC o dan yr adran hon.

I2I7113Datblygiad proffesiynol parhaus

1

Caiff GCC wneud rheolau sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr gyflawni hyfforddiant pellach.

2

Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth mewn cysylltiad â phersonau sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion mewn rheolau a wneir gan GCC o dan is-adran (1), gan gynnwys darpariaeth ar gyfer atgyfeiriadau i banel addasrwydd i ymarfer.

3

Mae is-adran (1), i’r graddau y mae’n ymwneud â pherson (“P”) sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y rhan F1gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig, neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o'r gofrestr yn unig, yn cael effaith yn ddarostyngedig i is-adran (4).

4

O ran rheolau a wneir o dan is-adran (1)—

a

ni chaniateir iddynt osod gofynion ar P os yw’n ofynnol i P gyflawni hyfforddiant pellach, yng Ngwladwriaeth gartref P, mewn perthynas â phroffesiwn gweithiwr cymdeithasol F3neu reolwr gofal cymdeithasol , ond

b

pan fônt yn gosod gofynion ar P—

i

rhaid iddynt ystyried y ffaith bod P yn weithiwr cymdeithasol F3neu'n rheolwr gofal cymdeithasol cwbl gymwysedig yng Ngwladwriaeth gartref P, a

ii

rhaid iddynt bennu y caniateir i’r hyfforddiant y mae’n ofynnol i P ei gyflawni gael ei gyflawni y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

5

Yn is-adran (4) ystyr “Gwladwriaeth gartref”, mewn perthynas â P, yw’r Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol lle y mae P wedi ei sefydlu’n gyfreithlon fel gweithiwr cymdeithasol F2neu reolwr gofal cymdeithasol .

I3I8114Cymeradwyo cyrsiau etc.

1

Caiff GCC, yn unol â rheolau a wneir ganddo—

a

cymeradwyo cyrsiau mewn gwaith cymdeithasol perthnasol ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr;

b

cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr ar gyfer personau sydd wedi eu cofrestru neu sy’n dymuno cofrestru yn y rhan honno o’r gofrestr;

c

cymeradwyo cyrsiau yn y gwaith a gaiff ei ymarfer gan bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad nad yw wedi ei bennu yn adran 80(1) neu odani.

2

Caiff cymeradwyaeth a roddir o dan yr adran hon fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol ym marn GCC.

3

Caiff rheolau a wneir yn rhinwedd yr adran hon, yn benodol, wneud darpariaeth—

a

ynghylch cynnwys cyrsiau a’r dulliau ar gyfer cwblhau cyrsiau;

b

o ran y ddarpariaeth o wybodaeth am gyrsiau i GCC;

c

o ran y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau, neu rannau o gyrsiau a bennir yn y rheolau;

d

o ran niferoedd y personau a gaiff ymgymryd â chyrsiau;

e

o ran dyfarnu tystysgrifau gan GCC o gwblhau cyrsiau yn llwyddiannus;

f

ynghylch darfodiad ac adnewyddiad cymeradwyaethau;

g

ynghylch tynnu cymeradwyaethau yn ôl.

4

Caiff GCC

a

cynnal, neu wneud trefniadau ar gyfer cynnal, archwiliadau mewn cysylltiad â chyrsiau a grybwyllir yn yr adran hon neu yn adran 116;

b

gwneud gwaith ymchwil, neu helpu personau eraill i wneud gwaith ymchwil, i faterion sy’n berthnasol i hyfforddiant ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.

5

Ni chaniateir i gwrs gael ei gymeradwyo gan GCC o dan yr adran hon oni bai bod GCC yn meddwl y bydd y cwrs yn galluogi personau sy’n ei gwblhau i gyrraedd y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol.

6

Yn is-adran (5) ystyr “y safon ofynnol o hyfedredd yng ngwaith gofal cymdeithasol” yw’r safon a ddisgrifir mewn rheolau a wneir gan GCC.

7

Rhaid i GCC gynnal a chyhoeddi rhestr o’r cyrsiau y mae wedi eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

I4I9115Arolygiadau mewn cysylltiad â chyrsiau penodol

1

Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer arolygu mannau lle y gwneir y canlynol neu ar gyfer arolygu sefydliadau y gwneir y canlynol ganddynt neu o dan eu cyfarwyddyd—

a

y rhoddir, neu y bwriedir rhoi, unrhyw gwrs perthnasol (neu ran o gwrs o’r fath), neu

b

y cynhelir unrhyw archwiliad, neu y bwriedir cynnal unrhyw archwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs perthnasol.

2

Caiff y rheolau wneud darpariaeth—

a

ar gyfer penodi personau i gynnal arolygiadau (“arolygwyr”);

b

i adroddiadau gael eu gwneud gan arolygwyr—

i

ar natur ac ansawdd y cyfarwyddyd a roddir, neu sydd i’w roi, a’r cyfleusterau a ddarperir, neu sydd i’w darparu, yn y man neu gan y sefydliad yr ymwelir ag ef;

ii

ar unrhyw faterion eraill a bennir yn y rheolau;

c

i GCC dalu ffioedd, lwfansau a threuliau i bersonau a benodir yn arolygwyr;

d

i bersonau o’r fath gael eu trin, at ddibenion Atodlen 2, fel aelodau o staff GCC.

3

Yn is-adran (1) ystyr “cwrs perthnasol”, mewn perthynas â GCC, yw—

a

unrhyw gwrs y rhoddwyd cymeradwyaeth ar ei gyfer gan GCC, neu y ceisir cymeradwyaeth o’r fath, o dan adran 114, neu

b

unrhyw hyfforddiant y caiff fod yn ofynnol, yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 113(1), i berson sydd wedi ei dderbyn i ran o’r gofrestr ei gwblhau ar ôl cofrestru.

I5I10116Swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant

1

Os ymddengys i GCC nad oes darpariaeth ddigonol yn cael ei gwneud ar gyfer hyfforddi personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad neu sy’n dymuno bod yn weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad, caiff GCC ddarparu cyrsiau at y diben hwnnw neu sicrhau bod cyrsiau o’r fath yn cael eu darparu.

2

Caiff GCC hefyd, ar unrhyw delerau ac yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy’n briodol yn ei farn ef—

a

gwneud grantiau, a thalu lwfansau teithio a lwfansau eraill, i bersonau sy’n preswylio yng Nghymru er mwyn sicrhau eu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad;

b

gwneud grantiau i sefydliadau sy’n darparu hyfforddiant yng ngwaith gweithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad.