Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

YmchwilioLL+C

125Dyletswydd i ymchwilioLL+C

(1)Rhaid i GCC ymchwilio, neu wneud trefniadau ar gyfer ymchwilio, i fater a atgyfeirir o dan adran 119 mewn cysylltiad ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.

(2)Caiff y person sy’n cynnal ymchwiliad o dan yr adran hon atgyfeirio’r mater i banel gorchmynion interim ar unrhyw adeg yn ystod yr ymchwiliad.

(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer ymchwiliadau o dan yr adran hon.

(4)Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (3), yn benodol, wneud darpariaeth—

(a)i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau i’r person sy’n cynnal yr ymchwiliad;

(b)i aelod o staff GCC gynnal ymchwiliadau;

(c)ar gyfer penodi un neu ragor o unigolion at ddiben cynnal ymchwiliad;

(d)ar gyfer penodi personau i roi cynhorthwy mewn perthynas ag ymchwiliad.

(5)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ymchwiliad⁠—

(a)person sy’n aelod o—

(i)GCC,

(ii)[F1Gwaith Cymdeithasol Lloegr ] ,

(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu

(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;

(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;

(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;

(d)person rhagnodedig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 125 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 125 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

126Pwerau yn dilyn ymchwiliadLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo’r ymchwiliad i fater sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer wedi dod i ben.

(2)Rhaid i GCC atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer os yw wedi ei fodloni—

(a)bod rhagolwg realistig i’r panel ddod i’r casgliad bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, a

(b)ei bod er budd y cyhoedd i atgyfeirio’r mater.

(3)Pan na fo’r mater yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer, caiff GCC—

(a)penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig;

(b)rhoi cyngor i’r person cofrestredig, neu i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r ymchwiliad, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad;

(c)dyroddi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol;

(d)cytuno â’r person cofrestredig y bydd yn cydymffurfio ag unrhyw ymgymeriadau sy’n briodol ym marn GCC;

(e)caniatáu cais o dan adran 92 gan y person cofrestredig i’w gofnod yn y gofrestr gael ei ddileu drwy gytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 126 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 126 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

127Hysbysiad: atgyfeirio neu wareduLL+C

(1)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r personau a restrir yn is-adran (2)—

(a)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel gorchmynion interim o dan adran 125(2);

(b)bod mater wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer o dan adran 126(2);

(c)o’r ffordd y mae’r mater wedi ei waredu o dan adran 126(3).

(2)Y personau yw—

(a)y person cofrestredig y mae’r mater yn ymwneud ag ef, a

(b)pan fo’r mater yn destun honiad a grybwyllir yn adran 118(1)(a), y person a wnaeth yr honiad.

(3)Caiff GCC roi hysbysiad i unrhyw berson arall o’r atgyfeiriad neu’r gwarediad o fater o dan adran 126 os yw wedi ei fodloni ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

(4)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon roi’r rhesymau dros yr atgyfeiriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 127 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 127 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

128RhybuddionLL+C

(1)Pan fo GCC yn bwriadu dyroddi rhybudd i berson cofrestredig, rhaid i GCC—

(a)hysbysu’r person cofrestredig am ei fwriad, a

(b)hysbysu’r person hwnnw am yr hawl i ofyn am wrandawiad llafar at ddiben dyfarnu pa un ai i roi rhybudd ai peidio.

(2)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y cyfnod y caniateir i gais am wrandawiad llafar gael ei wneud ynddo;

(b)y trefniadau a’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad llafar.

(3)Rhaid i GCC ganiatáu cais am wrandawiad llafar os gwneir y cais yn unol â gofynion rheolau a wneir o dan is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 128 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 128 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

129YmgymeriadauLL+C

(1)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch cytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d).

(2)Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn os caiff ymgymeriad ei dorri;

(c)canlyniadau torri ymgymeriad;

(d)adolygiad cyfnodol o ofyniad i gydymffurfio ag ymgymeriad.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 129 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 129 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

130CyfrynguLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu, neu awdurdodi GCC drwy reolau i ddarparu, ar gyfer trefniadau i gynnal cyfryngu gydag unrhyw berson cofrestredig yr atgyfeirir mater ar gyfer ymchwiliad mewn cysylltiad ag ef o dan adran 125.

(2)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth, neu awdurdodi GCC drwy reolau i wneud darpariaeth, ynghylch—

(a)yr amgylchiadau pan ganiateir cynnal cyfryngu, a

(b)y trefniadau ar gyfer cynnal cyfryngu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 130 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 130 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)