xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn cysylltiad â mater sydd wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer.
(2)Ond nid yw’n gymwys mewn cysylltiad ag achosion adolygu o dan adran 151 (ac eithrio i’r graddau y caniateir i reolau gael eu gwneud o dan adran 136(4) neu 137(6) ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir, neu rybuddion a roddir, yn sgil adolygiad a gynhelir o dan adran 151).
(3)Nid yw ychwaith yn gymwys mewn cysylltiad ag achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, na’r rhan honno o achosion gerbron panel addasrwydd i ymarfer, pan fo’r panel hwnnw yn ystyried—
(a)pa un ai i wneud gorchymyn interim o dan adran 144, neu
(b)adolygu gorchymyn interim o dan adran 146.
(4)Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at berson cofrestredig yn gyfeiriad at y person cofrestredig y mae’r atgyfeiriad i’r panel addasrwydd i ymarfer wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 134 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 134 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae is-adran (2) yn gymwys—
(a)pan fo person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, a
(b)pan fo’r cais hwnnw wedi ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 92(3).
(2)Ni chaiff y panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb ond os yw’r person wedi cytuno ar ddatganiad o ffeithiau sy’n ymwneud â’r mater y gwnaed yr atgyfeiriad a grybwyllir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef.
(3)Os gwneir gorchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb, caiff GCC—
(a)cyhoeddi’r datganiad o ffeithiau y cytunir arnynt yn y modd sy’n briodol ym marn GCC, a
(b)datgelu’r datganiad i unrhyw berson os yw GCC yn meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 135 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I4A. 135 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff panel addasrwydd i ymarfer gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig os yw’r person yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer.
(2)Rhaid i GCC ddatgelu manylion yr ymgymeriadau i unrhyw berson—
(a)y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo, hyd y gŵyr GCC;
(b)sydd, hyd y gŵyr GCC, â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(c)y mae’r person cofrestredig, hyd y gŵyr GCC, yn ceisio cyflogaeth o’r fath neu drefniant o’r fath ganddo;
(d)a ragnodir.
(3)Ond ni chaiff GCC ddatgelu i unrhyw berson fanylion unrhyw ymgymeriad nad yw ond yn ymwneud ag iechyd corfforol neu iechyd meddwl y person cofrestredig.
(4)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch ymgymeriadau y cytunir arnynt â phanel addasrwydd i ymarfer o dan yr adran hon; a chaiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch y materion a bennir yn adran 129(2) (y weithdrefn sydd i’w dilyn ar gyfer cytuno ar ymgymeriadau etc.).
(5)Caiff rheolau o dan is-adran (4) gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad ag ymgymeriadau y cytunir arnynt, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 138(4), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 136 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I6A. 136 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu nad oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person hwnnw.
(3)Neu, caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r pethau a ganlyn—
(a)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (4);
(b)gwaredu’r mater yn y ffordd a bennir yn is-adran (5).
(4)Caiff y panel roi cyngor ynghylch unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r honiad o dan adran 118(1)(a) neu’r wybodaeth a arweiniodd at yr achos o dan adran 118(1)(b) (yn ôl y digwydd)—
(a)i’r person cofrestredig, a
(b)i unrhyw berson arall sy’n ymwneud â’r achos.
(5)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
(6)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer rhoi rhybudd o dan yr adran hon.
(7)Caiff rheolau o dan is-adran (6), yn benodol, wneud darpariaeth—
(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol rhoi hysbysiad o rybudd arfaethedig i’r person cofrestredig, a
(b)sy’n caniatáu i’r person cofrestredig gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â’r rhybudd arfaethedig.
(8)Caiff rheolau o dan is-adran (6) hefyd gynnwys darpariaeth mewn cysylltiad â rhybudd a roddir o dan adran 138(6) neu yn sgil adolygiad o dan adran 152(3)(b)(ii), 153(3)(b)(ii), 154(3)(b)(ii) neu 155(6)(b)(ii).
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 137 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I8A. 137 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)Rhaid i’r panel waredu’r mater mewn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (9).
(3)Caiff y panel wneud gorchymyn o dan adran 135(2) ar gyfer dileu cofnod y person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb.
(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig; yn yr achos hwnnw, mae adran 136(2) a (3) yn gymwys mewn cysylltiad ag ymgymeriadau o’r fath.
(5)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig.
(6)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
(7)Caiff y panel wneud gorchymyn cofrestru amodol, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person.
(8)Caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro.
(9)Caiff y panel wneud gorchymyn dileu, sef gorchymyn ar gyfer dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig yn y gofrestr.
(10)Ond ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu os yr unig sail y mae wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer arni yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I10A. 138 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu—
(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a
(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(2)Caiff gorchymyn cofrestru amodol bennu—
(a)bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn;
(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (1)(b).
(3)Rhaid i orchymyn atal dros dro bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na blwyddyn; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I12A. 139 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi gwneud gorchymyn cofrestru amodol, gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 138(7), (8) neu (9) (“y penderfyniad”).
(2)Caiff y panel addasrwydd i ymarfer—
(a)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr fod yn ddarostyngedig i’r amodau gydag effaith ar unwaith, neu
(b)yn achos gorchymyn atal dros dro neu orchymyn dileu, gwneud gorchymyn y dylai cofrestriad y person cofrestredig yn y gofrestr gael ei atal dros dro gydag effaith ar unwaith.
(3)Ni chaiff y panel wneud gorchymyn o dan is-adran (2) (“gorchymyn effaith ar unwaith”) ond os yw wedi ei fodloni bod y gorchymyn—
(a)yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd,
(b)fel arall er budd y cyhoedd, neu
(c)er budd y person cofrestredig.
(4)Rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig bod gorchymyn effaith ar unwaith wedi ei wneud.
(5)Mae gorchymyn effaith ar unwaith yn cael effaith o’r dyddiad yr hysbyswyd y person cofrestredig amdano—
(a)tan y dyddiad y mae’r penderfyniad yn cymryd effaith yn unol ag adran 141(5), neu
(b)hyd nes bod apêl yn erbyn y penderfyniad yn cael ei chadarnhau.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 140 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I14A. 140 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adrannau 135 i 138, rhaid i GCC roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r penderfyniad o ran gwaredu’r achos.
(2)Mewn unrhyw achos pan fo’r gwarediad yn dilyn canfyddiad o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer, rhaid i’r hysbysiad i’r person cofrestredig gynnwys—
(a)datganiad o ffeithiau a ganfyddir gan y panel, a
(b)canfyddiad y panel o ran amhariad ar addasrwydd i ymarfer.
(3)Mae penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 135, 136 neu 137 yn cymryd effaith ar unwaith.
(4)Pan fo panel addasrwydd i ymarfer yn gwaredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9), rhaid i GCC hefyd roi hysbysiad i’r person cofrestredig o’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 158.
(5)Nid yw penderfyniad i waredu achos mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a bennir yn adran 138(5) i (9) yn cymryd effaith—
(a)tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod yr hysbyswyd y person cofrestredig am y penderfyniad, neu
(b)os gwneir apêl o fewn y cyfnod hwnnw, hyd nes bod yr apêl yn cael ei thynnu’n ôl, ei therfynu neu ei gwrthod.
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 141 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I16A. 141 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio adrannau 135 i 138 i ddiwygio’r ffyrdd y caiff panel addasrwydd i ymarfer waredu mater addasrwydd i ymarfer.
(2)Caiff y rheoliadau, yn benodol—
(a)ychwanegu pŵer gwaredu newydd at y pwerau a grybwyllir yn yr adrannau hynny, a gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â’r pŵer hwnnw;
(b)diwygio neu ddiddymu pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny;
(c)diwygio neu ddiddymu darpariaethau yn yr adrannau hynny sy’n gwneud darpariaeth atodol mewn cysylltiad â pŵer gwaredu a grybwyllir yn yr adrannau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 142 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I18A. 142 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)