RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 7CYFFREDINOL AC ATODOL

159Datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer

Caiff GCC gyhoeddi neu ddatgelu i unrhyw berson wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd person cofrestredig i ymarfer os yw’n meddwl ei bod er budd y cyhoedd i wneud hynny.

160Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu

(1)

At ddiben cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i⁠—

(a)

person cofrestredig, neu

(b)

unrhyw berson arall (ac eithrio un o Weinidogion y Goron),

y mae GCC yn meddwl ei fod yn gallu cyflenwi gwybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen y mae’n ymddangos ei bod yn berthnasol i arfer unrhyw swyddogaeth o’r fath, gyflenwi’r wybodaeth honno neu gyflwyno’r ddogfen honno.

(2)

Caiff GCC, yn benodol, ei gwneud yn ofynnol i’r person cofrestredig yr ymchwilir i’w addasrwydd i ymarfer, ddarparu manylion unrhyw berson—

(a)

y cyflogir y person cofrestredig fel gweithiwr gofal cymdeithasol ganddo;

(b)

sydd â threfniant â’r person cofrestredig i’r person cofrestredig ddarparu gwasanaethau i drydydd parti yn rhinwedd ei swydd fel gweithiwr gofal cymdeithasol.

(3)

Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol, neu sy’n caniatáu, unrhyw ddatgeliad o wybodaeth a waherddir drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)

Ond pan fo gwybodaeth yn cael ei chadw ar ffurf y mae’r gwaharddiad yn gweithredu ynddi oherwydd bod yr wybodaeth yn gallu golygu bod modd adnabod unigolyn, caiff GCC ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi ar ffurf nad yw’n gallu golygu bod modd adnabod yr unigolyn hwnnw.

(5)

Os yw person yn methu â chyflenwi unrhyw wybodaeth neu gyflwyno unrhyw ddogfen o fewn 14 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y mae GCC yn ei bennu, i’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person wneud hynny o dan yr adran hon, caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei chyflenwi neu i’r ddogfen gael ei chyflwyno.

161Cyhoeddi penderfyniadau addasrwydd i ymarfer

(1)

Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136.

(2)

Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 137 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o ddim amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(3)

Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achos o dan adran 138 (gwarediad yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).

(4)

Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i waredu achosion adolygu mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(5)

Rhaid i GCC gyhoeddi penderfyniad panel addasrwydd i ymarfer i wneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140.

(6)

Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn gan banel gorchmynion interim neu banel addasrwydd i ymarfer—

(a)

penderfyniad i wneud gorchymyn interim o dan adran 144;

(b)

penderfyniad i gadarnhau neu amrywio gorchymyn interim yn sgil adolygiad o dan adran 147.

(7)

Rhaid i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud—

(a)

i ddyroddi rhybudd o dan adran 126(3)(c) (pwerau GCC pan na fo’r achos yn cael ei atgyfeirio i banel addasrwydd i ymarfer),

(b)

i gytuno ar ymgymeriadau o dan adran 126(3)(d), neu

(c)

i ganiatáu cais i ddileu cofnod o’r gofrestr drwy gytundeb o dan adran 126(3)(e).

(8)

Mae is-adrannau (1) i (7) yn ddarostyngedig i is-adrannau (9) a (10).

(9)

Nid yw’n ofynnol i GCC gyhoeddi unrhyw benderfyniad gan banel addasrwydd i ymarfer i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â pherson cofrestredig o dan adran 137(2), 138(5), 152(8)(a), 153(9)(a), 154(8)(a) neu 155(10)(a); ond caiff wneud hynny.

(10)

Rhaid i GCC beidio â chyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.

162Canllawiau ynghylch addasrwydd i ymarfer

(1)

Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim wneud neu gadarnhau gorchymyn interim o dan Bennod 4.

(2)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer neu banel gorchmynion interim roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adran (1) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Bennod 4.

(3)

Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau a all, yn ei farn ef, ei gwneud yn briodol, neu’n amhriodol, i banel addasrwydd i ymarfer wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

cyrraedd gwarediad cydsyniol o fater o dan adran 135 neu 136;

(b)

rhoi cyngor neu rybudd o dan adran 137;

(c)

gwaredu unrhyw fater mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adran 138(3) i (9);

(d)

gwneud gorchymyn effaith ar unwaith o dan adran 140;

(e)

gwaredu mater yn sgil adolygiad mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a grybwyllir yn adrannau 152 i 155.

(4)

Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)

ymgymeriadau penodol, neu fathau penodol o ymgymeriadau, y caniateir i banel addasrwydd i ymarfer gytuno arnynt, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cytuno ar yr ymgymeriadau hynny;

(b)

amodau penodol, neu fathau penodol o amodau, y caniateir eu cynnwys mewn gorchymyn cofrestru amodol, a pha bryd y gall fod yn briodol neu’n amhriodol cynnwys yr amodau hynny;

(c)

y cyfnod o amser y dylai unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael effaith ar ei gyfer⁠—

(i)

ymgymeriadau;

(ii)

amodau a gynhwysir mewn gorchymyn cofrestru amodol;

(iii)

gorchymyn atal dros dro.

(5)

Caiff GCC gyhoeddi canllawiau ynghylch ffactorau y mae’n meddwl y dylid eu hystyried wrth ddyfarnu pa un a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol ai peidio.

(6)

Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer roi sylw i ganllawiau a gyhoeddir o dan is-adrannau (3) i (5) wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rhan hon.

163Atal dros dro: atodol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys mewn cysylltiad â pherson sy’n ddarostyngedig—

(a)

i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 138(8) (gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad);

(b)

i orchymyn atal dros dro a wneir, a gadarnheir neu a amrywir yn sgil adolygiad o dan adran 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7);

(c)

i orchymyn atal dros dro amhenodol a wneir neu a gadarnheir yn sgil adolygiad o dan adran 154(10) neu 155(9);

(d)

i orchymyn atal dros dro interim a wneir, a gadarnheir neu a amrywir o dan adran 144 neu 147.

(2)

Mae’r person i’w drin at bob diben ac eithrio’r rhai a grybwyllir yn is-adran (3) fel pe na bai wedi ei gofrestru yn y gofrestr er gwaethaf y ffaith bod enw’r person yn parhau i ymddangos ynddi.

(3)

Mae’r person i’w drin fel pe bai wedi ei gofrestru at ddiben—

(a)

unrhyw achosion o dan y Rhan hon (gan gynnwys ystyriaeth ragarweiniol neu ymchwiliad o dan Bennod 2) sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)

cais a wneir o dan reolau o dan adran 92 i gofnod gael ei ddileu o ran o’r gofrestr drwy gytundeb;

(c)

achosion o dan adran 94 (cofnodion sy’n seiliedig ar wybodaeth anwir neu gamarweiniol) sy’n ymwneud â chofnod mewn rhan o’r gofrestr.

164Ystyr “person cofrestredig” yn Rhan 6

Yn y Rhan hon, ystyr “person cofrestredig” yw person sydd wedi ei gofrestru yn F1y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol F2... o’r gofrestr; ac mae’n cynnwys person—

(a)

y byddai ei gofrestriad wedi darfod o dan adran 87(1) oni bai am y ffaith bod is-adran (2) o’r adran honno yn gymwys i’r person;

(b)

y mae gorchymyn atal dros dro yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c), 154(6), (7) neu (10) neu 155(9);

(c)

y mae gorchymyn atal dros dro interim yn cael effaith mewn cysylltiad ag ef o dan adran 144 neu 147.