RHAN 7GORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG
165Dynodi gweithgaredd rheoleiddiedig
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
dynodi gweithgaredd y mae is-adran (2) yn gymwys iddo fel gweithgaredd rheoleiddiedig at ddibenion y Rhan hon, a
(b)
awdurdodi i orchmynion gwahardd gael eu gwneud mewn cysylltiad â’r gweithgaredd rheoleiddiedig.
(2)
Y gweithgareddau y mae’r is-adran hon yn gymwys iddynt yw—
(a)
ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad rhagnodedig;
(b)
cyflawni gweithgaredd rhagnodedig fel gweithiwr gofal cymdeithasol;
(c)
y defnydd gan unigolyn o deitl rhagnodedig sy’n ymwneud â gweithgaredd o fewn paragraff (a) neu (b).
(3)
Yn is-adran (2) nid yw’r cyfeiriadau at “gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)
gweithiwr cymdeithasol, neu
(b)
gweithiwr gofal cymdeithasol o ddisgrifiad a bennir am y tro drwy reoliadau o dan adran 80(1)(b) (disgrifiadau o weithiwr gofal cymdeithasol y mae GCC yn cadw rhan ychwanegol o’r gofrestr mewn cysylltiad â hwy).
(4)
Yn y Rhan hon ystyr “gorchymyn gwahardd” yw gorchymyn a wneir gan panel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.
(5)
Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(6)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr adran hon, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.
166Amodau ar gyfer gwneud gorchymyn gwahardd
(1)
Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 165 ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd.
(2)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson oni bai bod un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)
bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath rhagnodedig;
(b)
bod y person wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd o fath rhagnodedig;
(c)
bod y person wedi ei gynnwys ar restr wahardd;
(d)
bod corff perthnasol wedi gwneud dyfarniad i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;
(e)
bod y panel wedi ei fodloni bod y person wedi methu â chyrraedd unrhyw safon ymddygiad a bennir o dan adran 173;
(f)
bod y panel yn meddwl bod gwneud y gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
(3)
Yn is-adran (2) mae i “corff perthnasol” a “rhestr wahardd” yr un ystyr ag yn adran 117 (seiliau amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
167Gorchmynion gwahardd interim
(1)
Rhaid i reoliadau o dan adran 165 awdurdodi i orchmynion gwahardd interim gael eu gwneud.
(2)
Mae gorchymyn gwahardd interim yn orchymyn a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn gwahardd ai peidio.
(3)
Rhaid i’r rheoliadau ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd interim oni bai ei fod yn meddwl bod gwneud gorchymyn ar frys yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
168Gorchmynion gwahardd: darpariaeth atodol
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a)
gwneud darpariaeth o ran yr amser pan fydd gorchymyn gwahardd yn cymryd effaith;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad o orchymyn gwahardd gan banel addasrwydd i ymarfer, gan gynnwys—
(i)
yr amgylchiadau y caniateir i orchymyn gwahardd gael ei adolygu odanynt,
(ii)
y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am adolygiad,
(iii)
amseriad adolygiad, a
(iv)
pwerau’r panel mewn adolygiad (gan gynnwys pŵer i neilltuo’r gorchymyn gwahardd);
(c)
ei gwneud yn ofynnol i GCC gyhoeddi gwybodaeth ragnodedig ynghylch dyfarniadau a wneir gan baneli addasrwydd i ymarfer mewn cysylltiad â gorchmynion gwahardd a gorchmynion gwahardd interim;
(d)
ei gwneud yn ofynnol i GCC roi gwybodaeth ragnodedig o’r fath ar gael—
(i)
i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu
(ii)
er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.
169Gorchmynion gwahardd interim: adolygu
(1)
Rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)
os yw’r person y gwneir y gorchymyn mewn cysylltiad ag ef yn gofyn am adolygiad, a
(b)
os gofynnir am yr adolygiad heb fod yn gynharach na 3 mis ar ôl y dyddiad y gwnaed y gorchymyn.
(2)
Os adolygir gorchymyn gwahardd interim o dan is-adran (1), rhaid i banel addasrwydd i ymarfer adolygu’r gorchymyn o fewn pob cyfnod dilynol o 3 mis sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad o dan yr is-adran honno.
(3)
Caiff panel addasrwydd i ymarfer adolygu gorchymyn gwahardd interim ar unrhyw adeg os daw tystiolaeth newydd ar gael sy’n berthnasol i’r achos.
(4)
Yn dilyn adolygiad, caiff y panel neilltuo gorchymyn gwahardd interim.
170Apelau
(1)
Rhaid i reoliadau o dan adran 165 ddarparu ar gyfer hawl i apelio i’r tribiwnlys yn erbyn—
(a)
gorchymyn gwahardd;
(b)
penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd mewn adolygiad;
(c)
penderfyniad i beidio â neilltuo gorchymyn gwahardd interim mewn adolygiad.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth o ran—
(a)
y cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo;
(b)
ar ba seiliau y caniateir i apêl gael ei gwneud;
(c)
y weithdrefn ar gyfer gwneud apêl;
(d)
pwerau’r tribiwnlys ar apêl.
171Troseddau
(1)
Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â—
(a)
gorchymyn gwahardd, neu
(b)
gorchymyn gwahardd interim.
(2)
Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau greu troseddau diannod sy’n ymwneud â chyflogi neu benodi person i wneud unrhyw beth y gwaherddir y person rhag ei wneud drwy—
(a)
gorchymyn gwahardd, neu
(b)
gorchymyn gwahardd interim.
(4)
Ni chaiff rheoliadau sy’n creu trosedd ddarparu i’r drosedd fod yn drosedd y gellir ei chosbi ac eithrio drwy ddirwy (pa un a yw’r ddirwy yn ddirwy ddiderfyn neu’n ddirwy nad yw’n fwy na lefel benodedig ar y raddfa safonol).
Darpariaeth atodol
172Rhestr o bersonau sydd wedi eu gwahardd
(1)
Rhaid i GCC sefydlu a chynnal rhestr o bersonau y mae gorchymyn gwahardd neu orchymyn gwahardd interim yn cael effaith mewn cysylltiad â hwy.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys y rhestr;
(b)
pa un a yw’r rhestr, neu wybodaeth benodedig o’r rhestr, i’w chyhoeddi ai peidio;
(c)
rhoi’r rhestr ar gael—
(i)
i bersonau o ddisgrifiad penodedig, neu
(ii)
er mwyn i’r cyhoedd edrych arni.
173Safonau ymddygiad
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i GCC benderfynu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir oddi wrth berson sy’n cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig.
(2)
O ran GCC—
(a)
rhaid iddo gadw’r safonau o dan adolygiad, a
(b)
caiff newid neu ddisodli’r safonau.
(3)
Rhaid i GCC gyhoeddi—
(a)
y safonau, a
(b)
os caiff y safonau eu newid neu eu disodli, y safonau sydd wedi eu newid neu’r safonau newydd.
(4)
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn wrth benderfynu ar y safonau.
(5)
Caiff rheolau a wneir o dan is-adran (4), yn benodol—
(a)
gwneud darpariaeth ynghylch y meini prawf y penderfynir ar y safonau drwy gyfeirio atynt;
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cadw’r safonau o dan adolygiad.