RHAN 8GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU: DYLETSWYDD I SEFYDLU PANELI ETC.
I1I3174Dyletswydd i sefydlu paneli etc.
1
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth bod—
a
paneli i wneud dyfarniadau o dan Ran 4 mewn perthynas â chofrestru cychwynnol yn y gofrestr, aros arni ac adfer personau iddi (“paneli apelau cofrestru”),
b
paneli i wneud dyfarniadau mewn perthynas ag addasrwydd personau sydd wedi eu cofrestru yn y gofrestr i ymarfer fel gweithwyr gofal cymdeithasol (“paneli addasrwydd i ymarfer”), ac
c
paneli i atal dros dro gofrestriad person yn y gofrestr neu i atodi amodau i’w gofrestriad wrth aros am ddyfarniad gan baneli o’r math a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) (“paneli gorchmynion interim”).
2
Rhaid i banel a sefydlir yn rhinwedd is-adran (1) gael o leiaf 3 aelod, gan gynnwys aelod a benodir i gadeirio’r panel.
3
Rhaid i’r aelodau fod yn unigolion.
4
Rhaid i aelodaeth panel gael mwyafrif o bersonau nad ydynt wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr ac nad ydynt erioed wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran ohoni.
5
Ni chaniateir i’r personau a ganlyn fod yn aelodau o banel—
a
person sy’n aelod neu’n aelod o staff—
i
GCC,
ii
F1Gwaith Cymdeithasol Lloegr ,
iii
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
iv
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;
b
person rhagnodedig.
6
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch—
a
penodi personau yn aelodau o banel (gan gynnwys, yn ddarostyngedig i is-adran (2), nifer y personau y caniateir iddynt gael eu penodi neu y mae rhaid eu penodi);
b
y cworwm ar gyfer arfer swyddogaethau’r paneli;
c
tymor swydd person fel aelod neu gadeirydd panel;
d
y seiliau ar gyfer atal aelod o’i swydd dros dro neu ei symud o’i swydd.
7
Rhaid i GCC hefyd drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer—
a
datgan a chofrestru buddiannau preifat aelodau paneli;
b
cyhoeddi cofnodion a gofnodwyd yn y gofrestr o fuddiannau aelodau.
8
Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth arall ynghylch cyfansoddiad a gweithrediad paneli; ond mae unrhyw reolau yn ddarostyngedig i reoliadau a wneir o dan adran 175 (rheoliadau ynghylch achosion panel).
9
Yn benodol, caiff rheolau o dan is-adran (8) ddarparu ar gyfer—
a
penodi cynghorwyr cyfreithiol neu gynghorwyr eraill;
b
penodi aseswyr neu archwilwyr;
c
categorïau o berson y caniateir iddynt gael eu penodi i gadeirio paneli;
d
ffioedd, treuliau neu daliadau eraill sydd i’w gwneud gan GCC i unrhyw aelod o banel.
I2I4175Achosion gerbron paneli
1
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth sy’n briodol yn eu barn hwy ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron—
a
paneli apelau cofrestru;
b
paneli gorchmynion interim;
c
paneli addasrwydd i ymarfer.
2
Caiff y rheoliadau awdurdodi GCC neu ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag achosion o’r fath.
3
Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol i berson roi tystiolaeth neu gyflwyno dogfen neu dystiolaeth berthnasol arall na allai’r person gael ei orfodi i’w rhoi neu ei chyflwyno mewn achosion sifil mewn llys yng Nghymru a Lloegr.
4
Safon y prawf sy’n gymwys i’r achosion a grybwyllir yn is-adran (1) yw’r un sy’n gymwys i achosion sifil.