RHAN 9CYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.
I1I8176Y cyrff rheoleiddiol
Yn y Rhan hon—
a
y cyrff rheoleiddiol yw—
i
Gweinidogion Cymru, a
ii
GCC;
b
ystyr “swyddogaethau perthnasol” yw—
i
mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, eu swyddogaethau rheoleiddiol;
ii
mewn perthynas â GCC, ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;
c
ystyr “amcanion cyffredinol” yw—
i
mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yr amcanion a grybwyllir yn adran 4;
ii
mewn perthynas â GCC, yr amcan a grybwyllir yn adran 68(1).
I2I9177Awdurdodau perthnasol
1
Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—
a
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,
b
Cyngor y Gweithlu Addysg,
c
pob awdurdod lleol,
d
pob Bwrdd Iechyd Lleol,
e
Ymddiriedolaeth GIG,
f
awdurdod tân ac achub Cymreig,
F1g
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
h
unrhyw berson arall a ragnodir.
2
Yn is-adran (1)—
a
ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
b
ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
F2c
. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
I3I10178Cydweithredu wrth arfer swyddogaethau
1
Rhaid i’r cyrff rheoleiddiol gydweithredu â’i gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol os ydynt yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—
a
yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, neu
b
yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion cyffredinol.
2
Rhaid i gorff rheoleiddiol, wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol, geisio cydweithredu ag awdurdod perthnasol os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—
a
yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer ei swyddogaethau, neu
b
yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.
3
Pan fo corff rheoleiddiol yn gofyn am gydweithrediad awdurdod perthnasol o dan is-adran (2) rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni bai—
a
bod yr awdurdod wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall,
b
bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â’i swyddogaethau ei hun, neu
c
bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau.
4
Os yw awdurdod perthnasol yn gofyn am gydweithrediad corff rheoleiddiol, rhaid i’r corff gydymffurfio â’r cais hwnnw oni bai—
a
bod y corff wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) neu reol gyfreithiol arall,
b
bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â swyddogaethau’r corff rheoleiddiol ei hun, neu
c
bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol—
i
ar swyddogaethau’r corff, neu
ii
ar gyflawni amcanion cyffredinol y corff.
I4I11179Arfer swyddogaethau ar y cyd
1
Caiff un corff rheoleiddiol (“A”) drefnu gyda’r corff rheoleiddiol arall (“B”) i A a B weithredu gyda’i gilydd wrth arfer ar y cyd un neu ragor o swyddogaethau perthnasol A gydag un neu ragor o swyddogaethau perthnasol B.
2
Ni chaiff corff rheoleiddiol ymrwymo i drefniant o dan yr adran hon ond os yw’n meddwl y bydd y trefniant—
a
yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer y swyddogaeth, neu
b
yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.
3
Caiff trefniadau o dan yr adran hon—
a
cynnwys sefydlu cyd-bwyllgor er mwyn arfer y cyd-swyddogaethau perthnasol ar ran y cyrff rheoleiddiol, a
b
bod ar unrhyw delerau ac amodau eraill (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.
I5I12180Dirprwyo swyddogaethau i gorff rheoleiddiol arall
1
Caiff corff rheoleiddiol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau perthnasol i’r corff rheoleiddiol arall os ydynt yn cytuno y bydd dirprwyo o’r fath—
a
yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r swyddogaeth i’w harfer, neu
b
yn helpu’r corff sy’n dirprwyo i gyflawni ei amcanion cyffredinol.
2
Ond ni chaniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo i’r corff rheoleiddiol arall os yw’r corff arall yn meddwl y gall dirprwyo o’r fath fod yn niweidiol—
a
i’r modd y mae’r corff arall yn arfer ei swyddogaethau, neu
b
i gyflawni amcanion cyffredinol y corff arall.
3
Er gwaethaf is-adran (1), ni chaiff GCC ddirprwyo—
a
ei swyddogaethau gwneud rheolau, neu
b
ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag achosion addasrwydd i ymarfer.
4
Caiff dirprwyo o dan is-adran (1) fod ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.
5
Caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo o dan is-adran (1) yn gyfan gwbl neu i unrhyw raddau llai y cytunir arnynt gan y cyrff rheoleiddiol.
6
Nid yw dirprwyo o dan is-adran (1) yn effeithio—
a
ar unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb sydd gan y corff sy’n dirprwyo’r swyddogaeth am ei harfer, nac
b
ar allu’r corff hwnnw i arfer y swyddogaeth honno neu i wneud trefniadau eraill mewn perthynas â hi.
I6I13181Rhannu gwybodaeth
1
Caiff corff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth i gorff rheoleiddiol arall neu awdurdod perthnasol yn unol â threfniant a wneir o dan y Rhan hon i gydweithredu, i arfer swyddogaethau ar y cyd neu i ddirprwyo swyddogaethau.
2
Ni chaniateir i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol os yw’r person sydd â’r wybodaeth wedi ei wahardd rhag ei darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
3
Yn achos gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn, ni chaniateir i’r wybodaeth gael ei darparu i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol oni bai—
a
bod yr wybodaeth wedi ei darparu ar ffurf sy’n golygu nad oes modd adnabod yr unigolyn, neu
b
bod y person sydd â’r wybodaeth yn cael cydsyniad yr unigolyn i’w darparu.
4
At ddibenion is-adran (3)(a), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—
a
o’r wybodaeth, a
b
o wybodaeth arall a ddarperir i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol gan yr un corff rheoleiddiol.
5
Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir yn unol â threfniant o dan y Rhan hon gael ei defnyddio gan y person y darperir yr wybodaeth iddo ond at ddibenion cydweithredu, arfer swyddogaethau ar y cyd neu arfer swyddogaethau dirprwyedig yn unol â’r trefniant.
6
Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ddyletswydd y cyrff rheoleiddiol i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion diogelu llesiant unigolyn.
I7I14182Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu llesiant
1
Rhaid i gorff rheoleiddiol ddatgelu gwybodaeth y mae wedi ei chael wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol i unrhyw berson arall os yw’n meddwl bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn diogelu llesiant unigolyn yng Nghymru.
2
Ond ni chaniateir i wybodaeth gael ei datgelu o dan is-adran (1) os yw datgelu’r wybodaeth wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
3
Yn achos gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn, ni chaniateir iddi gael ei datgelu mewn modd sy’n golygu y gellir adnabod yr unigolyn ond os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl bod adnabod yr unigolyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu llesiant unrhyw unigolyn.
4
At ddibenion is-adran (3), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—
a
o’r wybodaeth, a
b
o wybodaeth arall a ddatgelir gan y corff rheoleiddiol i’r person arall y cyfeirir ato yn is-adran (1).