xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9LL+CCYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

176Y cyrff rheoleiddiolLL+C

Yn y Rhan hon—

(a)y cyrff rheoleiddiol yw—

(i)Gweinidogion Cymru, a

(ii)GCC;

(b)ystyr “swyddogaethau perthnasol” yw—

(i)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, eu swyddogaethau rheoleiddiol;

(ii)mewn perthynas â GCC, ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon;

(c)ystyr “amcanion cyffredinol” yw—

(i)mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yr amcanion a grybwyllir yn adran 4;

(ii)mewn perthynas â GCC, yr amcan a grybwyllir yn adran 68(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 176 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 176 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

177Awdurdodau perthnasolLL+C

(1)Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—

(a)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,

(b)Cyngor y Gweithlu Addysg,

(c)pob awdurdod lleol,

(d)pob Bwrdd Iechyd Lleol,

(e)Ymddiriedolaeth GIG,

(f)awdurdod tân ac achub Cymreig,

F1(g). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(h)unrhyw berson arall a ragnodir.

(2)Yn is-adran (1)—

(a)ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);

(b)ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;

F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4A. 177 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

178Cydweithredu wrth arfer swyddogaethauLL+C

(1)Rhaid i’r cyrff rheoleiddiol gydweithredu â’i gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol os ydynt yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y caiff y swyddogaethau hynny eu harfer, neu

(b)yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion cyffredinol.

(2)Rhaid i gorff rheoleiddiol, wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol, geisio cydweithredu ag awdurdod perthnasol os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl y bydd cydweithredu o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer ei swyddogaethau, neu

(b)yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(3)Pan fo corff rheoleiddiol yn gofyn am gydweithrediad awdurdod perthnasol o dan is-adran (2) rhaid i’r awdurdod gydymffurfio â’r cais oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall,

(b)bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â’i swyddogaethau ei hun, neu

(c)bod yr awdurdod yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol ar ei swyddogaethau.

(4)Os yw awdurdod perthnasol yn gofyn am gydweithrediad corff rheoleiddiol, rhaid i’r corff gydymffurfio â’r cais hwnnw oni bai—

(a)bod y corff wedi ei atal rhag cydweithredu yn y modd y gofynnir amdano drwy unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys y Ddeddf hon) neu reol gyfreithiol arall,

(b)bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath fel arall yn anghydnaws â swyddogaethau’r corff rheoleiddiol ei hun, neu

(c)bod y corff yn meddwl y byddai cydweithredu o’r fath yn cael effaith andwyol—

(i)ar swyddogaethau’r corff, neu

(ii)ar gyflawni amcanion cyffredinol y corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6A. 178 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

179Arfer swyddogaethau ar y cydLL+C

(1)Caiff un corff rheoleiddiol (“A”) drefnu gyda’r corff rheoleiddiol arall (“B”) i A a B weithredu gyda’i gilydd wrth arfer ar y cyd un neu ragor o swyddogaethau perthnasol A gydag un neu ragor o swyddogaethau perthnasol B.

(2)Ni chaiff corff rheoleiddiol ymrwymo i drefniant o dan yr adran hon ond os yw’n meddwl y bydd y trefniant—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r corff yn arfer y swyddogaeth, neu

(b)yn helpu’r corff i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(3)Caiff trefniadau o dan yr adran hon—

(a)cynnwys sefydlu cyd-bwyllgor er mwyn arfer y cyd-swyddogaethau perthnasol ar ran y cyrff rheoleiddiol, a

(b)bod ar unrhyw delerau ac amodau eraill (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 179 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8A. 179 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

180Dirprwyo swyddogaethau i gorff rheoleiddiol arallLL+C

(1)Caiff corff rheoleiddiol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau perthnasol i’r corff rheoleiddiol arall os ydynt yn cytuno y bydd dirprwyo o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r swyddogaeth i’w harfer, neu

(b)yn helpu’r corff sy’n dirprwyo i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(2)Ond ni chaniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo i’r corff rheoleiddiol arall os yw’r corff arall yn meddwl y gall dirprwyo o’r fath fod yn niweidiol—

(a)i’r modd y mae’r corff arall yn arfer ei swyddogaethau, neu

(b)i gyflawni amcanion cyffredinol y corff arall.

(3)Er gwaethaf is-adran (1), ni chaiff GCC ddirprwyo—

(a)ei swyddogaethau gwneud rheolau, neu

(b)ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag achosion addasrwydd i ymarfer.

(4)Caiff dirprwyo o dan is-adran (1) fod ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.

(5)Caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo o dan is-adran (1) yn gyfan gwbl neu i unrhyw raddau llai y cytunir arnynt gan y cyrff rheoleiddiol.

(6)Nid yw dirprwyo o dan is-adran (1) yn effeithio—

(a)ar unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb sydd gan y corff sy’n dirprwyo’r swyddogaeth am ei harfer, nac

(b)ar allu’r corff hwnnw i arfer y swyddogaeth honno neu i wneud trefniadau eraill mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10A. 180 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

181Rhannu gwybodaethLL+C

(1)Caiff corff rheoleiddiol ddarparu gwybodaeth i gorff rheoleiddiol arall neu awdurdod perthnasol yn unol â threfniant a wneir o dan y Rhan hon i gydweithredu, i arfer swyddogaethau ar y cyd neu i ddirprwyo swyddogaethau.

(2)Ni chaniateir i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (1) i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol os yw’r person sydd â’r wybodaeth wedi ei wahardd rhag ei darparu drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Yn achos gwybodaeth sy’n ymwneud ag unigolyn, ni chaniateir i’r wybodaeth gael ei darparu i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol oni bai—

(a)bod yr wybodaeth wedi ei darparu ar ffurf sy’n golygu nad oes modd adnabod yr unigolyn, neu

(b)bod y person sydd â’r wybodaeth yn cael cydsyniad yr unigolyn i’w darparu.

(4)At ddibenion is-adran (3)(a), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—

(a)o’r wybodaeth, a

(b)o wybodaeth arall a ddarperir i gorff rheoleiddiol neu awdurdod perthnasol gan yr un corff rheoleiddiol.

(5)Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir yn unol â threfniant o dan y Rhan hon gael ei defnyddio gan y person y darperir yr wybodaeth iddo ond at ddibenion cydweithredu, arfer swyddogaethau ar y cyd neu arfer swyddogaethau dirprwyedig yn unol â’r trefniant.

(6)Nid yw’r adran hon yn effeithio ar ddyletswydd y cyrff rheoleiddiol i ddatgelu gwybodaeth at ddibenion diogelu llesiant unigolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 181 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12A. 181 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

182Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu llesiantLL+C

(1)Rhaid i gorff rheoleiddiol ddatgelu gwybodaeth y mae wedi ei chael wrth arfer ei swyddogaethau perthnasol i unrhyw berson arall os yw’n meddwl bod datgeliad o’r fath yn angenrheidiol neu’n hwylus er mwyn diogelu llesiant unigolyn yng Nghymru.

(2)Ond ni chaniateir i wybodaeth gael ei datgelu o dan is-adran (1) os yw datgelu’r wybodaeth wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(3)Yn achos gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn, ni chaniateir iddi gael ei datgelu mewn modd sy’n golygu y gellir adnabod yr unigolyn ond os yw’r corff rheoleiddiol yn meddwl bod adnabod yr unigolyn yn angenrheidiol er mwyn diogelu llesiant unrhyw unigolyn.

(4)At ddibenion is-adran (3), mae gwybodaeth i’w thrin fel pe bai ar ffurf sy’n golygu bod modd adnabod unigolyn os gellir adnabod yr unigolyn o gyfuniad—

(a)o’r wybodaeth, a

(b)o wybodaeth arall a ddatgelir gan y corff rheoleiddiol i’r person arall y cyfeirir ato yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 182 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14A. 182 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(h) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)