(fel y’i cyflwynwyd gan adran 2(2))

ATODLEN 1LL+CGWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

Gwasanaethau cartrefi gofalLL+C

1(1)“Gwasanaeth cartref gofal” yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.

(2)Ond nid yw llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir yn y mannau a ganlyn yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal—

(a)ysbyty;

(b)ysgol (ond gweler is-baragraff (3));

(c)canolfan breswyl i deuluoedd;

(d)man sy’n darparu gwasanaeth llety diogel;

(e)man sy’n darparu llety ar gyfer oedolyn a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion.

(3)Mae llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir mewn ysgol yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal os, ar yr adeg y darperir llety ar gyfer plant yn yr ysgol—

(a)yw llety wedi ei ddarparu yn yr ysgol neu o dan drefniadau a wneir gan berchennog yr ysgol ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu

(b)bwriedir i lety o’r fath gael ei ddarparu ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.

(4)Nid yw’r ddarpariaeth o lety a gofal i blentyn gan riant, perthynas neu riant maeth yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal [F1oni bai bod paragraff 5A o Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989 yn gymwys (trin maethu fel gwasanaeth cartref gofal pan eir dros y terfyn maethu)].

(5)Yn is-baragraff (2)(b), mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

(6)Yn is-baragraff (4), ystyr “rhiant” yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parent” a “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41)).

(7)At ddibenion is-baragraff (4) mae person yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn os yw’r person—

(a)yn rhiant maeth awdurdod lleol, neu

(b)yn maethu’r plentyn yn breifat.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b) (ynghyd ag ergl. 7(a))

Gwasanaethau llety diogelLL+C

2“Gwasanaeth llety diogel” yw’r ddarpariaeth o lety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle y darperir gofal a chymorth i’r plant hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b)

Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoeddLL+C

3(1)“Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” yw’r ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni mewn man yng Nghymru—

(a)lle y mae galluedd y rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant yn cael ei fonitro neu ei asesu, a

(b)lle y rhoddir i’r rhieni unrhyw ofal a chymorth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “rhiant” mewn perthynas â phlentyn yw unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b)

Gwasanaethau mabwysiaduLL+C

4Mae “gwasanaeth mabwysiadu” yn wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan—

(a)cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr “adoption society” yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) sy’n sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno [F2(ond gweler adran 2(4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) (dim cais i gofrestru i gael ei wneud o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon os yw cymdeithas fabwysiadu yn gorff anghorfforedig)], neu

(b)asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption support agency” gan adran 8 o’r Ddeddf honno.

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)

Gwasanaethau maethuLL+C

5Ystyr “gwasanaeth maethu” yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol—

(a)lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol;

(b)arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)

Gwasanaethau lleoli oedolionLL+C

6(1)Ystyr “gwasanaeth lleoli oedolion” yw gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “cytundeb gofalwr” yw cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)

Gwasanaethau eirioliLL+C

7(1)Mae “gwasanaeth eirioli” yn wasanaeth a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(2)Ni chaniateir i wasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli oni bai bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth, ac i’r graddau y maent wedi eu bodloni felly.

(3)Y gofyniad cyntaf yw bod y gwasanaeth yn wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion, neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu pa un a yw’r anghenion hynny’n bodoli).

(4)Yr ail ofyniad yw nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan berson sydd, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29))—

(a)yn berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, F3...

[F4(b)[F5yn berson y mae un o’r darpariaethau a ganlyn yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’r Alban, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 (“Rheoliadau 2020”);

(ii)rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Ymadael â’r UE) (Yr Alban) (Diwygio etc.) 2019 (“Rheoliadau 2019”);

(iii)rheoliad 6 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2020;

(iv)rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) (Yr Alban) 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2019.]

(c)yn unigolyn y mae’r darpariaethau yn rheoliad 4A neu 5A o’r Rheoliadau Dirymu yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yn y Deyrnas Unedig ar ôl y diwrnod ymadael.]

[F6(4A)Yn is-baragraff (4)—

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

(6)Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

(a)sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-baragraff hwnnw, a

(b)nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i‘w diwygio.

Diwygiadau Testunol

F5Atod. 1 para. 7(4)(b) wedi ei amnewid (31.12.2020) gan S.I. 2019/761, rhl. 14 (ynghyd â rhlau. 15A-19) (as wedi ei amnewid gan Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1626), rhlau. 1(2), 4 (ynghyd â rhlau. 3, 5-13))

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)

Gwasanaethau cymorth cartrefLL+C

8(1)“Gwasanaeth cymorth cartref” yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i berson nad yw, oherwydd ei hyglwyfedd neu ei angen (ac eithrio hyglwyfedd neu angen nad yw ond yn codi oherwydd bod y person yn ifanc), yn gallu ei ddarparu ar ei gyfer ef ei hun ac a ddarperir yn y man yng Nghymru lle y mae’r person yn byw (gan gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer neu ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath).

(2)Ond nid yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn gyfystyr â gwasanaeth cymorth cartref⁠—

(a)os y’i darperir gan unigolyn heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i “employment agency” ac “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)), ac sy’n gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy’n cael y gofal a’r cymorth, neu

(b)os y’i darperir—

(i)mewn man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu lety a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion, neu

(ii)mewn ysbyty.

(3)Nid yw person sy’n cyflwyno unigolion sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref i unigolion a all ddymuno ei gael ond nad oes ganddo unrhyw rôl barhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a’r cymorth a ddarperir i’w drin fel pe bai’n darparu gwasanaeth cymorth cartref (ni waeth pa un a yw’r cyflwyniad er elw ai peidio).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(b) (ynghyd ag ergl. 7(b))

DehongliLL+C

9Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yr ystyr a roddir gan Ddeddf 2014;

  • ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw—

    (a)

    ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hosptial” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),

    (b)

    ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hosptial” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14), a

    (c)

    clinig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent clinic” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 29.4.2019 gan O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(a)