Valid from 06/04/2016
Valid from 02/04/2018
33Yn adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)—
(a)yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.”;
(b)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “person” hyd at “asiantaeth” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth”;
(c)yn is-adran (5)(a), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”;
(d)yn is-adran (9)—
(i)cyn y diffiniad o “gofalwr perthnasol” rhodder—
““mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;””
(ii)cyn y diffiniad o “person cofrestredig” mewnosoder—
““mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;””
(iii)mae’r diffiniad o “person cofrestredig” wedi ei ddiddymu.