Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

33Yn adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)—

(a)yn lle is-adran (1) rhodder—

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.;

(b)yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “person” hyd at “asiantaeth” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth”;

(c)yn is-adran (5)(a), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”;

(d)yn is-adran (9)—

(i)cyn y diffiniad o “gofalwr perthnasol” rhodder—

  • “mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”

(ii)cyn y diffiniad o “person cofrestredig” mewnosoder—

  • “mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”

(iii)mae’r diffiniad o “person cofrestredig” wedi ei ddiddymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 3 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2Atod. 3 para. 29 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag ergl. 6)

I3Atod. 3 para. 33 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag erglau. 6, 8)