ATODLEN 1GWASANAETHAU RHEOLEIDDIEDIG: DIFFINIADAU

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 2(2))

I1I1231Gwasanaethau cartrefi gofal

1

“Gwasanaeth cartref gofal” yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal mewn man yng Nghymru, i bersonau oherwydd eu hyglwyfedd neu eu hangen.

2

Ond nid yw llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir yn y mannau a ganlyn yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal—

a

ysbyty;

b

ysgol (ond gweler is-baragraff (3));

c

canolfan breswyl i deuluoedd;

d

man sy’n darparu gwasanaeth llety diogel;

e

man sy’n darparu llety ar gyfer oedolyn a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion.

3

Mae llety ynghyd â nyrsio neu ofal a ddarperir mewn ysgol yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal os, ar yr adeg y darperir llety ar gyfer plant yn yr ysgol—

a

yw llety wedi ei ddarparu yn yr ysgol neu o dan drefniadau a wneir gan berchennog yr ysgol ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis blaenorol, neu

b

bwriedir i lety o’r fath gael ei ddarparu ar gyfer o leiaf un plentyn am fwy na 295 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dod o fewn y 24 mis dilynol.

4

Nid yw’r ddarpariaeth o lety a gofal i blentyn gan riant, perthynas neu riant maeth yn gyfystyr â gwasanaeth cartref gofal F3oni bai bod paragraff 5A o Atodlen 7 i Ddeddf Plant 1989 yn gymwys (trin maethu fel gwasanaeth cartref gofal pan eir dros y terfyn maethu).

5

Yn is-baragraff (2)(b), mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56).

6

Yn is-baragraff (4), ystyr “rhiant” yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parent” a “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989 (p.41)).

7

At ddibenion is-baragraff (4) mae person yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn os yw’r person—

a

yn rhiant maeth awdurdod lleol, neu

b

yn maethu’r plentyn yn breifat.

I2I1242Gwasanaethau llety diogel

“Gwasanaeth llety diogel” yw’r ddarpariaeth o lety at ddiben cyfyngu ar ryddid plant mewn mangreoedd preswyl yng Nghymru lle y darperir gofal a chymorth i’r plant hynny.

I3I1253Gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd

1

“Gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd” yw’r ddarpariaeth o lety ar gyfer plant a’u rhieni mewn man yng Nghymru—

a

lle y mae galluedd y rhieni i ymateb i anghenion y plant ac i ddiogelu eu llesiant yn cael ei fonitro neu ei asesu, a

b

lle y rhoddir i’r rhieni unrhyw ofal a chymorth yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol.

2

Yn is-baragraff (1), ystyr “rhiant” mewn perthynas â phlentyn yw unrhyw berson sy’n gofalu am y plentyn.

I4I139C14Gwasanaethau mabwysiadu

Mae “gwasanaeth mabwysiadu” yn wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan—

a

cymdeithas fabwysiadu o fewn ystyr “adoption society” yn Neddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) sy’n sefydliad gwirfoddol o fewn ystyr y Ddeddf honno F4(ond gweler adran 2(4) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) (dim cais i gofrestru i gael ei wneud o dan Ran 1 o’r Ddeddf hon os yw cymdeithas fabwysiadu yn gorff anghorfforedig), neu

b

asiantaeth cymorth mabwysiadu o fewn yr ystyr a roddir i “adoption support agency” gan adran 8 o’r Ddeddf honno.

I5I1405Gwasanaethau maethu

Ystyr “gwasanaeth maethu” yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson ac eithrio awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol—

a

lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol;

b

arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â’r lleoliad hwnnw.

I6I1416Gwasanaethau lleoli oedolion

1

Ystyr “gwasanaeth lleoli oedolion” yw gwasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) gan awdurdod lleol neu berson arall at ddibenion lleoli oedolion gydag unigolyn yng Nghymru o dan gytundeb gofalwr (ac mae’n cynnwys unrhyw drefniadau ar gyfer recriwtio, hyfforddi a goruchwylio unigolion o’r fath).

2

Yn is-baragraff (1) ystyr “cytundeb gofalwr” yw cytundeb ar gyfer darparu gan unigolyn lety yng nghartref yr unigolyn ynghyd â gofal a chymorth ar gyfer hyd at dri oedolyn.

I7I1427Gwasanaethau eirioli

1

Mae “gwasanaeth eirioli” yn wasanaeth a bennir at ddibenion y paragraff hwn gan reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

2

Ni chaniateir i wasanaeth gael ei bennu’n wasanaeth eirioli oni bai bod y gofynion a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth, ac i’r graddau y maent wedi eu bodloni felly.

3

Y gofyniad cyntaf yw bod y gwasanaeth yn wasanaeth a gynhelir (pa un ai er elw ai peidio) at ddiben cynrychioli safbwyntiau unigolion, neu helpu unigolion i fynegi’r safbwyntiau hynny, mewn cysylltiad â materion sy’n ymwneud ag anghenion yr unigolion hynny am ofal a chymorth (gan gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesu pa un a yw’r anghenion hynny’n bodoli).

4

Yr ail ofyniad yw nad yw’r gwasanaeth yn cael ei gynnal gan berson sydd, yng nghwrs gweithgaredd cyfreithiol (o fewn yr ystyr a roddir i “legal activity” yn Neddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007 (p.29))—

a

yn berson awdurdodedig at ddibenion y Ddeddf honno, F7...

F8b

F10yn berson y mae un o’r darpariaethau a ganlyn yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’r Alban, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 (“Rheoliadau 2020”);

ii

rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Ymadael â’r UE) (Yr Alban) (Diwygio etc.) 2019 (“Rheoliadau 2019”);

iii

rheoliad 6 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2020;

iv

rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) (Yr Alban) 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2019.

c

yn unigolyn y mae’r darpariaethau yn rheoliad 4A neu 5A o’r Rheoliadau Dirymu yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yn y Deyrnas Unedig ar ôl y diwrnod ymadael.

F64A

Yn is-baragraff (4)—

  • F9...

  • ystyr “y Rheoliadau Dirymu” (“the Revocation Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/375).

5

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-baragraff (1) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

6

Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—

a

sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-baragraff hwnnw, a

b

nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i‘w diwygio.

I8I1268Gwasanaethau cymorth cartref

1

“Gwasanaeth cymorth cartref” yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth i berson nad yw, oherwydd ei hyglwyfedd neu ei angen (ac eithrio hyglwyfedd neu angen nad yw ond yn codi oherwydd bod y person yn ifanc), yn gallu ei ddarparu ar ei gyfer ef ei hun ac a ddarperir yn y man yng Nghymru lle y mae’r person yn byw (gan gynnwys gwneud trefniadau ar gyfer neu ddarparu gwasanaethau mewn cysylltiad â darpariaeth o’r fath).

2

Ond nid yw’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yn gyfystyr â gwasanaeth cymorth cartref⁠—

a

os y’i darperir gan unigolyn heb ymglymiad ymgymeriad sy’n gweithredu fel asiantaeth gyflogi neu fusnes cyflogi (o fewn yr ystyr a roddir i “employment agency” ac “employment business” gan adran 13 o Ddeddf Asiantaethau Cyflogi 1973 (p.35)), ac sy’n gweithio’n gyfan gwbl o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y person sy’n cael y gofal a’r cymorth, neu

b

os y’i darperir—

i

mewn man lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu lety a drefnir fel rhan o wasanaeth lleoli oedolion, neu

ii

mewn ysbyty.

3

Nid yw person sy’n cyflwyno unigolion sy’n darparu gwasanaeth cymorth cartref i unigolion a all ddymuno ei gael ond nad oes ganddo unrhyw rôl barhaus yng nghyfarwyddyd neu reolaeth y gofal a’r cymorth a ddarperir i’w drin fel pe bai’n darparu gwasanaeth cymorth cartref (ni waeth pa un a yw’r cyflwyniad er elw ai peidio).

I9I1439Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yr ystyr a roddir gan Ddeddf 2014;

  • ystyr “ysbyty” (“hospital”) yw—

    1. a

      ysbyty gwasanaeth iechyd o fewn yr ystyr a roddir i “health service hosptial” gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42),

    2. b

      ysbyty annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent hosptial” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14), a

    3. c

      clinig annibynnol o fewn yr ystyr a roddir i “independent clinic” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000.

ATODLEN 2GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 67(4))

RHAN 1STATWS

I10I841Statws

1

Nid yw GCC i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

2

Nid yw eiddo GCC i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2AELODAETH

I11I852Aelodau

1

Mae GCC i gael—

a

aelod i gadeirio GCC (“yr aelod-gadeirydd”), a

b

dim mwy na 14 o aelodau eraill.

2

Gweinidogion Cymru sydd i benodi aelodau GCC.

3

Ni chaniateir i berson sy’n aelod o staff GCC gael ei benodi’n aelod o GCC ac ni chaiff person o’r fath ddal swydd fel aelod o GCC.

4

Mae aelodau GCC i ddal swydd ar unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn yr Atodlen hon.

5

Cyn gwneud penodiad o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.

6

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ddymunoldeb penodi aelodaeth amrywiol sydd â mwyafrif o bersonau nad ydynt, ac nad ydynt wedi bod, yn weithwyr gofal cymdeithasol neu’n gynrychiolwyr gweithwyr gofal cymdeithasol.

I12I863Tâl etc. aelodau

1

Caiff GCC dalu i’w haelodau unrhyw dâl, treuliau a lwfansau y mae Gweinidogion yn penderfynu arnynt.

2

Mae GCC i dalu, neu wneud darpariaeth ar gyfer talu, unrhyw bensiwn, lwfans neu arian rhodd y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arnynt i berson sy’n aelod o GCC, neu sydd wedi bod yn aelod o GCC, neu mewn cysylltiad â pherson o’r fath.

3

Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod amgylchiadau arbennig sy’n ei gwneud yn iawn i berson sy’n peidio â dal swydd fel aelod-gadeirydd GCC gael digollediad, rhaid i GCC dalu neu wneud darpariaeth ar gyfer talu i’r person unrhyw ddigollediad y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno.

I13I874Tymor y swydd

Mae person a benodir yn aelod o GCC yn dal swydd am unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu arno wrth wneud y penodiad; ond ni chaniateir i’r cyfnod hwnnw fod yn hwy na 4 blynedd.

I14I885Ymddiswyddo

1

Caiff yr aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

2

Caiff ymddiswyddo—

a

fel aelod-gadeirydd, neu

b

fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

3

Caiff aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

I15I896Diswyddo

1

Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo’r aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

a

ei fod yn anaddas i barhau’n aelod-gadeirydd, neu

b

nad yw’n gallu gweithredu fel aelod-gadeirydd neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

2

Cânt ddiswyddo’r aelod-gadeirydd o’i swydd—

a

fel aelod-gadeirydd, neu

b

fel aelod-gadeirydd ac fel aelod.

3

Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig ddiswyddo aelod o GCC nad yw’n aelod-gadeirydd os ydynt wedi eu bodloni—

a

ei fod yn anaddas i barhau’n aelod, neu

b

nad yw’n gallu gweithredu fel aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

RHAN 3PWERAU CYFFREDINOL

I16I907Pwyllgorau

1

Caiff GCC sefydlu pwyllgorau.

2

Caiff pwyllgorau a sefydlir o dan is-baragraff (1) sefydlu is-bwyllgorau.

3

Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o GCC neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

4

Caiff GCC dalu tâl, treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

a

sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

b

nad yw’n aelod o GCC nac yn aelod o’i staff.

I17I918Dirprwyo

1

Caiff GCC drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

a

o’i bwyllgorau,

b

o’i is-bwyllgorau,

c

o’i aelodau, neu

d

o’i staff.

2

Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb GCC am arfer swyddogaethau dirprwyedig nac ar ei allu i arfer swyddogaethau dirprwyedig.

I18I929Pwerau atodol

Caiff GCC wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

RHAN 4TRAFODION ETC.

I19I9310Gweithdrefn

1

Mae GCC i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm); ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir odani.

2

Mae GCC i reoleiddio gweithdrefn (gan gynnwys cworwm)—

a

ei bwyllgorau, a

b

ei is-bwyllgorau.

I20I9411Gosod y sêl

1

Caiff GCC fod â sêl.

2

Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

a

unrhyw aelod o GCC, neu

b

unrhyw berson arall a awdurdodir gan GCC at y diben hwnnw.

I21I9512Tystiolaeth

Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl GCC neu wedi ei llofnodi ar ei ran i gael ei derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ei chymryd fel ei bod wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

RHAN 5PRIF WEITHREDWR A STAFF ERAILL

I22I9613Prif weithredwr a staff eraill

1

Rhaid i GCC benodi prif weithredwr.

2

Caiff GCC benodi unrhyw staff eraill sy’n briodol yn ei farn ef; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 81 (dyletswydd GCC i benodi cofrestrydd).

3

Cyflogir person a benodir yn brif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gymeradwyo’r penodiad (gan gynnwys unrhyw delerau ac amodau’r penodiad).

4

Cyflogir unrhyw staff eraill a benodir o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau y mae GCC yn penderfynu arnynt; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch lefelau’r tâl, y pensiynau, y lwfansau a’r treuliau sy’n daladwy i staff o’r fath, neu mewn cysylltiad â hwy.

RHAN 6MATERION ARIANNOL AC ADRODDIADAU BLYNYDDOL ETC.

I23I9714Taliadau gan Weinidogion Cymru

Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i GCC o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau ac ar unrhyw amodau (os oes rhai), sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

I24I9815Swyddog cyfrifyddu

1

Mae’r prif weithredwr i weithredu fel swyddog cyfrifyddu GCC.

2

Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid GCC, y cyfrifoldebau a bennir mewn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru.

3

Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

a

cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

b

cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid GCC;

c

cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd GCC o’i adnoddau;

d

cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol;

e

cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Dŷ’r Cyffredin neu Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Tŷ hwnnw.

I25I9916Cyfrifon ac archwilio

1

Rhaid i GCC ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

a

cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

b

llunio datganiad o gyfrifon.

2

Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

a

yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

b

ym mha fodd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

c

y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i gael ei lunio yn unol â hwy.

3

Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

a

Gweinidogion Cymru, a

b

Archwilydd Cyffredinol Cymru.

4

Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

a

archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno, a

b

heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad.

I26I10017Adroddiadau blynyddol etc.

1

Heb fod yn hwyrach na 30 Tachwedd ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i GCC gyhoeddi adroddiad ar y ffordd y cafodd ei swyddogaethau eu harfer yn ystod y flwyddyn honno (“adroddiad blynyddol”).

2

Cyn gynted â phosibl ar ôl i adroddiad blynyddol gael ei gyhoeddi, rhaid i GCC anfon copi ohono at Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i GCC ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw adroddiadau eraill a gwybodaeth arall sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

ATODLEN 3MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

(fel y’i cyflwynwyd gan adran 185)

RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU

I27I1271Deddf Safonau Gofal 2000

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003

I28I14417

I29I145I14418

Mae Pennod 6 o Ran 2 (gwasanaethau cymdeithasol: swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru) wedi ei diddymu.

I30I144I14619

Yn adran 142, ym mharagraff (a)—

a

yn is-baragraff (i), hepgorer “and 6”;

b

yn is-baragraff (ii), yn lle “section 5(b)” rhodder “section 5(1)(b)”.

I31I144I14720

Yn adran 143(2), mae paragraff (b) wedi ei ddiddymu.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

I32I14821

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I33I149I14822

Yn adran 41(6) (cydweithredu rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru mewn astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc. mewn gwasanaethau), yn lle’r geiriau o “sections 94 and 95” hyd at y diwedd rhodder “sections 149A and 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of studies and research and other reviews relating to local authority social services functions carried out by the Welsh Ministers).”

I34I148I15023

Yn adran 42(4) (cydweithredu rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru mewn astudiaethau ynghylch effaith darpariaethau statudol), yn lle’r geiriau o “section 95(2)” hyd at y diwedd rhodder “sections 149A and 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of studies and research and other reviews relating to local authority social services functions carried out by the Welsh Ministers).”

I35I15124Deddf Plant 2004

Yn adran 30 o Ddeddf Plant 2004 (p.31) (arolygu swyddogaethau o dan Ran 3), yn lle is-adran (1) rhodder—

1

The Welsh Ministers’ functions under Part 8 of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (anaw 4) may be exercised as if anything done by a local authority in Wales in the exercise of functions to which this section applies was in the exercise of a social services function of the local authority (within the meaning of that Act).

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

I36I12825

I37I129I12826

Yn adran 34R (ystyr “cartref gofal” a “darparwr cartref gofal”)—

a

yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “has” hyd at y diwedd rhodder “means premises at which a care home service, within the meaning of Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over;”

b

yn is-adran (3), yn lle “carries on a care home” rhodder “is a service provider of a care home service within the meaning of Part 1 of that Act where the service is provided wholly or mainly to persons aged 18 or over”;

c

yn is-adran (5), yn lle’r geiriau o “personal” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “care in a care home in Wales for an individual because of the individual’s vulnerability or need,”;

d

ar ôl is-adran (5), mewnosoder—

6

“Care” has the same meaning as in Part 1 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.

I38I128I13027

Yn adran 42(4A) (ystyr “cyn-ddarparwr cartref gofal”), yn lle’r geiriau o “personal” hyd at ddiwedd paragraff (a) rhodder “care of a particular description at a care home in Wales (see section 32R),”.

I39I15228Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) (gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant), yn is-baragraff (9B)—

I131a

yn lle is-is-baragraff (h) rhodder—

h

an inspection in Wales under section 33 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (inspections of regulated care and support services) of a residential family centre service, a fostering service, or an adoption service (each of which has the meaning given in Schedule 1 to that Act);

b

yn lle is-is-baragraff (j) rhodder—

j

a review under section 149B of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 (reviews of local authority social services functions in Wales);

c

yn is-is-baragraff (k), yn lle “or investigation under section 94” rhodder “under section 149B”.

I40I13229Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I41I15330

Yn adran 1 (trosolwg)—

a

yn is-adran (9)—

i

ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

ba

yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn llunio—

i

adroddiadau blynyddol ynghylch arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, a

ii

adroddiadau ar sefydlogrwydd marchnadoedd lleol ar gyfer darparu gofal a chymorth,

(adrannau 144A a 144B);

ii

ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

ca

yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru i gynnal adolygiadau sy’n ymwneud ag arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (adrannau 149A a 149B);

iii

ym mharagraff (d), yn lle “161).” rhodder

160);

da

yn caniatáu ar gyfer arolygu mangreoedd mewn cysylltiad ag adolygiadau a gynhelir gan Weinidogion Cymru o swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol neu arfer pwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’r swyddogaethau hynny, ac i Weinidogion Cymru ofyn am wybodaeth mewn cysylltiad ag adolygiadau o’r fath ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 161 i 161C).

b

yn is-adran (15)(c), yn lle “sefydliad neu asiantaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “establishment” ac “agency” yn Neddf Safonau Gofal 2000)” rhodder “darparwr gwasanaeth (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016)”.

I42I133I13231

Mae adran 183 (rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau eirioli mewn cartrefi gofal) wedi ei diddymu.

I43I134I13232

Yn adran 188(1) (diffiniadau at ddibenion adrannau 185 i 187), yn y diffiniad o “llety cadw ieuenctid”, yn lle paragraff (a) rhodder—

  1. a

    gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016);

I44I132I13533

Yn adran 189 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol)—

a

yn lle is-adran (1) rhodder—

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darparwr gwasanaeth yn methu â darparu gwasanaeth rheoleiddiedig oherwydd methiant busnes.

b

yn is-adran (2), yn lle’r geiriau o “person” hyd at “asiantaeth” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig, yn cael eu diwallu yn ardal yr awdurdod gan y darparwr gwasanaeth”;

c

yn is-adran (5)(a), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”;

d

yn is-adran (9)—

i

cyn y diffiniad o “gofalwr perthnasol” rhodder—

  • “mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”

ii

cyn y diffiniad o “person cofrestredig” mewnosoder—

  • “mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr un ystyr ag yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;”

iii

mae’r diffiniad o “person cofrestredig” wedi ei ddiddymu.

I45I136I13234

Yn adran 190(1) (methiant darparwr: eithriad i’r ddyletswydd dros dro), yn lle “person cofrestredig fethu â rhedeg y sefydliad neu ei reoli neu fethu â rhedeg yr asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparwr gwasanaeth fethu â darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig”.

I46I137I13235

Yn adran 191 (methiant darparwr: materion atodol)—

a

yn is-adran (6), yn lle “person cofrestredig, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y sefydliad neu’r asiantaeth” rhodder “darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n gysylltiedig â busnes y darparwr gwasanaeth”;

b

yn is-adran (7), yn lle “rhedeg sefydliad neu ei reoli neu’n methu â rhedeg asiantaeth neu ei rheoli” rhodder “darparu gwasanaeth rheoleiddiedig”.

I47I138I132F536

Yn adran 197(1) (diffiniadau)—

a

yn lle’r diffiniad o “cartref gofal” rhodder—

  • o ran “cartref gofal” (“care home”)—

    1. a

      mae iddo yr un ystyr â “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â chartref gofal yn Lloegr; a

    2. b

      ei ystyr yw man yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i oedolion;

b

yn lle’r diffiniad o “cartref plant”, rhodder—

  • “ystyr “cartref plant” (“children’s home”) yw—

    1. a

      cartref plant yn Lloegr o fewn ystyr Deddf Safonau Gofal 2000 y mae person wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad ag ef; a

    2. b

      mangre yng Nghymru lle y mae gwasanaeth cartref gofal o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i blant gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno;

RHAN 2GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Deddf Iechyd Meddwl 1983

I48I10137

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I49I10238

Yn adran 114A (cymeradwyo cyrsiau i weithwyr proffesiynol iechyd meddwl: Cymru)—

a

yn is-adran (1), yn lle “Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”;

b

yn lle is-adran (2) rhodder—

2

For that purpose—

a

subsections (2), (3), (4)(a) and (7) of section 114 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 apply as they apply to approvals given, rules made and courses approved under that section, and

b

sections 73 to 75 and section 115 of that Act apply accordingly.

c

yn is-adran (4), yn lle’r geiriau o “for” hyd at y diwedd rhodder “for the purposes of Parts 3 to 8 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016”;

d

yn is-adran (5), yn lle “Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

I50I10339

Yn adran 130H(7)(b) (eiriolwyr iechyd meddwl annibynnol i Gymru: pwerau a dyletswyddau atodol), yn lle’r geiriau o “principal” hyd at y diwedd rhodder “social worker part or the visiting European F1social worker part of the register kept under section 80(1) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016.”

Deddf Safonau Gofal 2000

I51I10440

Mae Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I52I10541

Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu diddymu—

a

adrannau 56 (y gofrestr) i 66 (ymwelwyr ar gyfer cyrsiau gwaith cymdeithasol penodol);

b

adrannau 68 (apelau i’r tribiwnlys), 69 (cyhoeddi etc. y gofrestr) ac 71 (rheolau);

c

adran 113 (pwerau diofyn y Gweinidog priodol);

d

y cofnod ar gyfer Cyngor Cymru yn y tabl yn adran 121(13) (dehongli cyffredinol etc.);

e

Atodlen 1 (Cyngor Cymru).

I53I10642

Yn adran 55 (dehongli)—

a

yn lle is-adrannau (2), (3) a (4) rhodder—

2

“Social care worker” means a person (other than a person excepted by regulations) who—

a

engages in social work which is required in connection with any health, education or social services provided in England (referred to in this Part as a “social worker”),

b

is employed at a children’s home in England, a care home in England or a residential family centre in England,

c

manages a home or centre of a kind mentioned in paragraph (b),

d

is employed for the purposes of a domiciliary care agency, a fostering agency, a voluntary adoption agency or an adoption support agency, in so far as the agency provides services to persons in England,

e

manages an agency of the kind mentioned in paragraph (d), or

f

is supplied by a domiciliary care agency to provide personal care in their own homes for persons in England who by reason of illness, infirmity or disability are unable to provide it for themselves without assistance.

3

Regulations may provide that persons of any of the following descriptions shall be treated as social care workers—

a

a person engaged in work for the purposes of a local authority in England’s social services functions;

b

a person engaged in work in England comprising the provision of services similar to services which may or must be provided by a local authority in England in the exercise of its social services functions;

c

a person engaged in the provision of personal care for any person in England;

d

a person who is employed in an undertaking (other than an establishment or agency) which consists of or includes supplying, or providing services for the purpose of supplying, persons to provide personal care to persons in England;

e

a person who manages an undertaking of the kind mentioned in paragraph (d);

f

a person who is employed in connection with the discharge of the functions of the Secretary of State under section 80 of the 1989 Act (inspection of children’s homes etc.);

g

a person who is employed as a member of staff of the Office for Standards in Education, Children’s Services and Skills who inspects premises under—

i

section 87 of the 1989 Act (welfare of children accommodated in independent schools and colleges),

ii

section 31 of this Act (inspection of establishments and agencies by persons authorised by registration authority), or

iii

section 139 of the Education and Inspections Act 2006 (inspection by Chief Inspector);

h

a person who is employed as a member of staff of the Care Quality Commission who, under Part 1 of the Health and Social Care Act 2008, inspects premises used for or in connection with the provision of social care (within the meaning of that Part);

i

a person who manages employees mentioned in paragraph (g) or (h);

j

a person employed in a day centre in England;

k

a person participating in a course approved by the Health and Care Professions Council under article 15 of the Health and Social Work Professions Order 2001 for persons wishing to become social workers.

b

hepgorer is-adrannau F2(4A), (6), (7) ac (8).

I54I10743

Yn adran 67 (swyddogaethau’r Gweinidog priodol)—

a

yn is-adran (1), yn lle “appropriate Minister” rhodder “Secretary of State”,

b

yn lle is-adran (2) rhodder—

2

The Secretary of State shall encourage persons to take part in—

a

courses approved by the Health and Social Care Professions Council under article 15 or by virtue of article 19(4) of the Health and Social Care Work Professions Order 2001 for persons who are or wish to become social workers, and

b

other courses relevant to the training of persons who are or wish to become social care workers.

c

yn is-adran (3)—

i

yn lle “appropriate Minister” yn y man cyntaf lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”, a

ii

yn lle “appropriate Minister” yn yr ail fan lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”;

d

yn is-adran (4)—

i

yn lle “appropriate Minister” yn y man cyntaf lle y mae’n ymddangos rhodder “Secretary of State”,

ii

yn lle “the Minister” rhodder “he or she”, a

iii

ym mharagraff (a), hepgorer “and Wales,”;

e

hepgorer is-adran (6);

f

yn is-adran (7)—

i

ym mharagraff (a), hepgorer “or (6)(b)”,

ii

ym mharagraff (b), yn lle “appropriate Minister” rhodder “Secretary of State”, a

iii

yn y geiriau ar ôl paragraff (b), yn lle “and, in respect of an authorisation given by the Assembly, references to a Minister included the Assembly; and in subsection (5)(b) and (6)(b)” rhodder “and in subsection (5)(b)”;

g

yn lle’r pennawd, rhodder “Functions of the Secretary of State”.

I55I10844

Yn Atodlen 2A (personau sy’n ddarostyngedig i adolygiad gan Gomisiynydd Plant Cymru), ym mharagraff 14, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002

I56I10945

Mae Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I57I11046

Yn adran 10(2) (rheoli etc. asiantaethau), yn lle “section 56(1) of the Care Standards Act 2000 (c. 14)” rhodder “section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (anaw 2)”.

Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004

I58I11147

Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (p.23) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I59I11248

Yn adran 41 (astudiaethau ar gyfer gwella darbodaeth etc. mewn gwasanaethau), ar ôl is-adran (6) mewnosoder—

7

Subsection (8) applies in respect of the discharge of social services functions by local authorities in Wales.

8

The Auditor General and Social Care Wales must co-operate with each other with respect to the exercise of their respective functions under this section and section 70 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (studies by SCW as to economy etc.).

9

In subsection (7) “social services functions” has the same meaning as in the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

I60I11349

I61I11450

Yn Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig), yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006

I62I11551

Mae Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 (p.30) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I63I11652

Yn Atodlen 2 (personau y mae eu swyddogaethau yn ddarostyngedig i adolygiad gan y Comisiynydd), yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”.

Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

I64I11753

Mae Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I65I11854

Yn adran 41 (cofrestrau: pŵer i atgyfeirio gwybodaeth i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd), yng nghofnod rhif 8 yn y tabl yn is-adran (7)—

a

yng ngholofn 1, yn lle “under section 56 of the Care Standards Act 2000 (c. 14)” rhodder “under section 80 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (anaw 20)”, a

b

yng ngholofn 2, yn lle “The Care Council for Wales” rhodder “the registrar appointed under section 81 of that Act”.

I66I11955

Yn Rhan 3 o Atodlen 3 (rhestrau gwahardd: darpariaeth atodol)—

a

ym mharagraff 16(4)(l), yn lle “the Care Council for Wales” rhodder “Social Care Wales”, a

b

ar ôl paragraff 16(4) mewnosoder—

4A

The reference in sub-paragraph (4) to “any of its committees” is, in respect of Social Care Wales, to be read as if it were a reference to “any panel established under Part 8 of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016

I67I12056

Yn Rhan 2 o Atodlen 4 (gweithgaredd rheoleiddiedig mewn perthynas ag oedolion hyglwyf)—

a

ar ddechrau paragraff 7(3C) mewnosoder “In relation to a vulnerable adult in England,”, a

b

ar ôl paragraff 7(3C) mewnosoder—

3CA

In relation to a vulnerable adult in Wales, relevant social work has the meaning given by section 79(4) of the Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016, and social care worker means a person who is a social care worker by virtue of section 79(1)(a) of that Act.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008

I68I12157

Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I69I12258

Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu diddymu—

a

adran 124 (rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol);

b

adran 125 (safon y prawf mewn achosion sy’n ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol);

c

adran 126 (addysg a hyfforddiant gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl a gymeradwywyd);

d

is-adran (3)(b) (a’r “or” yn union o’i blaen) o adran 163 (gorchmynion a rheoliadau: rheolaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);

e

is-adran (4)(za) o adran 171 (yr awdurdod priodol sy’n gwneud y gorchymyn cychwyn);

f

Atodlen 9 (rheoleiddio gweithwyr gofal cymdeithasol: Cymru).

RHAN 3AMRYWIOL

I70I8259Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005

Yn adran 33 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) (cyhoeddusrwydd ar gyfer gweithdrefnau cwynion), ar ôl is-adran (7) mewnosoder—

8

This section applies to a care home provider (see section 34R), a domiciliary care provider (see section 34S) or an independent palliative care provider (see section 34T) as it applies to a listed authority.

9

But in its application in accordance with subsection (8), the reference to “relevant services” in subsection (2)(a)(i) is to be read as a reference to the matters to which Part 2A applies (see section 34A).

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

I71I8360

Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

I72I77I8361

Yn y testun Cymraeg o adran 21(3)(b) (dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth), yn lle “, rhieni’r plentyn neu unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn” rhodder “neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn”.

I73I83I7862

Yn adran 42 (dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth)—

a

yn is-adran (4)(a)(i), yn lle “41(5)” rhodder “43(5)”;

b

yn is-adran (4)(a)(ii), yn lle “41(1)” rhodder “43(1)”;

c

yn is-adran (4)(b)(i), yn lle “41(5)” rhodder “43(5)”;

d

yn is-adran (4)(b)(ii), yn lle “41(3)” rhodder “43(3)”;

e

yn is-adran (4)(c)(i), yn lle “41(10)” rhodder “43(10)”;

f

yn is-adran (4)(c)(ii), yn lle “41(3)” rhodder “43(3)”.

I74I83I7963

Yn y testun Cymraeg o adran 46(3) (eithriad ar gyfer personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo), yn lle’r geiriau o “For” hyd at “question” rhodder “At ddibenion is-adran (1), mae adran 95(3) a (5) i (8) o Ddeddf 1999, a pharagraff 2 o Atodlen 8 iddi, yn gymwys ond mae’r cyfeiriadau yn adran 95(5) a (7) a’r paragraff hwnnw at yr Ysgrifennydd Gwladol i’w darllen fel cyfeiriadau at yr awdurdod lleol o dan sylw”.

I75I83I8064

Yn y testun Cymraeg o adran 147(3) (gwyro oddi wrth ofynion mewn codau), ar ôl “gategori” mewnosoder “penodol”.

I76I81I8365

Yn adran 197(1) (dehongli cyffredinol), yn y diffiniad o “sefydliad gwirfoddol”, yn lle “breifat” rhoddir “awdurdod lleol”.