RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i banel apelau cofrestru

I2I1102Apelau i’r panel apelau cofrestru: y weithdrefn

1

Rhaid i apêl o dan adran 101 gael ei gwneud drwy roi hysbysiad apelio i’r cofrestrydd.

2

Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol.

3

Ond caiff y cofrestrydd ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rhesymau da dros fethu â rhoi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran rhoi hysbysiad ar ôl yr amser priodol).

4

Yn is-adran (2) ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

a

yn achos penderfyniad a grybwyllir yn is-adran 101(1)(a) neu (b), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 89,

b

yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(c), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 94, ac

c

yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(d), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 96.