xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Apelau i banel apelau cofrestruLL+C

102Apelau i’r panel apelau cofrestru: y weithdrefnLL+C

(1)Rhaid i apêl o dan adran 101 gael ei gwneud drwy roi hysbysiad apelio i’r cofrestrydd.

(2)Rhaid rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod perthnasol.

(3)Ond caiff y cofrestrydd ganiatáu i apêl gael ei gwneud ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (2) os yw wedi ei fodloni bod rhesymau da dros fethu â rhoi hysbysiad cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran rhoi hysbysiad ar ôl yr amser priodol).

(4)Yn is-adran (2) ystyr “diwrnod perthnasol” yw—

(a)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn is-adran 101(1)(a) neu (b), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 89,

(b)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(c), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 94, ac

(c)yn achos penderfyniad a grybwyllir yn adran 101(1)(d), y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad o dan adran 96.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 102 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)