Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

104Apelau yn erbyn penderfyniadau panel apelau cofrestruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel apelau cofrestru—

(a)yn gwneud dyfarniad o dan adran 98(1)(b) na ddylai cofnod yn y gofrestr gael ei adfer am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(b)yn cyfarwyddo o dan adran 98(4) na chaiff person gyflwyno ceisiadau pellach i adfer i ran o’r gofrestr, neu’n cadarnhau cyfarwyddyd o’r fath o dan adran 99(2);

(c)yn gwneud dyfarniad mewn cysylltiad â chais i adfer a atgyfeirir iddo yn rhinwedd rheolau a wneir o dan adran 100(2)(e) am reswm sy’n ymwneud ag addasrwydd y person i ymarfer;

(d)yn gwneud dyfarniad o dan adran 103 mewn cysylltiad ag apêl yn erbyn penderfyniad y cofrestrydd.

(2)Caiff y person y mae penderfyniad y panel yn ymwneud ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

(3)Rhaid i apêl o dan yr adran hon gael ei dwyn cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad penderfyniad y panel.

(4)Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros fethu ag apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi o ran gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

(5)Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

(a)cadarnhau’r penderfyniad,

(b)rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel fod wedi ei wneud yn lle penderfyniad y panel, neu

(c)anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 104 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)