Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Valid from 03/04/2017

106Dyletswydd i hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth gofrestruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i GCC drwy reolau ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gofrestru mewn rhan o’r gofrestr roi hysbysiad i’r cofrestrydd o newidiadau i’r wybodaeth a gofnodir yn y gofrestr mewn cysylltiad â’r person hwnnw.

(2)Caiff rheolau o dan is-adran (1), yn benodol, gynnwys darpariaeth ynghylch—

(a)y newidiadau i roi hysbysiad yn eu cylch,

(b)ym mha fodd y mae rhaid rhoi hysbysiad a’r cyfnod ar gyfer gwneud hynny, ac

(c)canlyniadau methu â chydymffurfio ag unrhyw ofynion sydd wedi eu cynnwys yn y rheolau (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)