RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Hysbysu’r cofrestrydd am newidiadau i wybodaeth etc.
107Ceisiadau am wybodaeth sy’n ymwneud ag addasrwydd i ymarfer
(1)
Caiff GCC drwy reolau awdurdodi’r cofrestrydd i wneud cais am wybodaeth oddi wrth bersonau sydd wedi eu cofrestru mewn unrhyw ran o’r gofrestr sy’n ymwneud â’u haddasrwydd i ymarfer.
(2)
Caiff y rheolau, yn benodol, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ym mha fodd ac ar ba ffurf y mae cais i gael ei wneud;
(b)
amlder y ceisiadau;
(c)
yr wybodaeth y caniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani a’r wybodaeth na chaniateir i’r cofrestrydd wneud cais amdani;
(d)
canlyniadau methu â chydymffurfio â chais (a gaiff gynnwys atgyfeirio’r mater i banel addasrwydd i ymarfer).