RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Dyletswydd i gyhoeddi’r gofrestr etc.

I1I2109Cyhoeddi penderfyniadau penodol panel apelau cofrestru

1

Rhaid i GCC gyhoeddi’r penderfyniadau a ganlyn—

a

penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(1)(b) i beidio ag adfer person i’r gofrestr;

b

penderfyniad panel apelau cofrestru o dan adran 98(4) na chaiff person wneud ceisiadau pellach i adfer i’r gofrestr.

2

Ond ni chaniateir i GCC gyhoeddi unrhyw wybodaeth am iechyd corfforol neu iechyd meddwl person.