RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Dyletswydd i gyhoeddi’r gofrestr etc.
110Rhestr o bersonau sydd wedi eu tynnu oddi ar y gofrestr
(1)
Rhaid i GCC gadw rhestr o’r personau y mae eu cofnodion yn y gofrestr wedi eu dileu o dan yr amgylchiadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn dileu a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—
(a)
adran 138(9) (gwaredu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer), neu
(b)
adran 152(8)(e), 153(9)(d) neu 154(8)(d) (gwaredu mewn achos adolygu yn dilyn canfyddiad o amhariad ar addasrwydd i ymarfer).
(3)
Ni chaniateir i gofnod gael ei wneud yn y rhestr sy’n ymwneud â pherson sy’n ddarostyngedig i orchymyn dileu o’r fath hyd nes bod y penderfyniad wedi cymryd effaith o dan adran 141(5) neu 157(6) (yn ôl y digwydd).
(4)
Mae’r adran hon hefyd yn gymwys pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn ar gyfer dileu drwy gytundeb a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer o dan—
(a)
adran 135 (dileu o’r gofrestr ar sail gydsyniol), neu
(b)
adran 152(2), 153(2), 154(2), neu 155(5) (gwaredu mewn achos adolygu).
(5)
Pan fo person yn ddarostyngedig i orchymyn o’r fath ar gyfer dileu drwy gytundeb rhaid i’r rhestr roi manylion am y datganiad o ffeithiau y cytunwyd arno o dan adran 135(2) neu 150(2) (yn ôl y digwydd).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
ffurf a chynnwys y rhestr;
(b)
cyhoeddi’r rhestr neu wybodaeth benodedig o’r rhestr;
(c)
yr amgylchiadau pan fo rhaid dileu cofnod sy’n ymwneud â pherson o’r rhestr.