119Ystyriaeth ragarweiniolLL+C
(1)Rhaid i’r person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater a atgyfeirir gan GCC atgyfeirio’r mater hwnnw i ymchwilio iddo o dan adran 125 oni bai—
(a)bod y person yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120, neu
(b)ei bod yn ofynnol i’r person drwy adran 121 atgyfeirio’r mater yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer.
(2)Caiff y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater atgyfeirio’r mater, ar unrhyw adeg, i banel gorchmynion interim (yn ychwanegol at wneud atgyfeiriad neu ddyfarniad o dan is-adran (1)).
(3)Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ragarweiniol a gaiff, yn benodol, ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—
(a)un neu ragor o bersonau a benodir at y diben hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys tâl) y mae GCC yn penderfynu arnynt;
(b)un neu ragor o aelodau o staff GCC.
(4)Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—
(a)person sy’n aelod o—
(i)GCC,
(ii)[F1Gwaith Cymdeithasol Lloegr],
(iii)Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
(iv)Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;
(b)person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;
(c)person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;
(d)person rhagnodedig.
(5)Rhaid i GCC wneud unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn ef i hwyluso cydweithredu rhwng—
(a)person sydd wedi gwneud honiad bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, a
(b)y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r honiad.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 119(4)(a)(ii) wedi eu hamnewid (2.12.2019) gan Children and Social Work Act 2017 (c. 16), a. 70(2), Atod. 5 para. 42(a); O.S. 2019/1436, rhl. 2(s)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 119 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)