RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 2GWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL
Ystyriaeth ragarweiniol i honiadau etc.
119Ystyriaeth ragarweiniol
1
Rhaid i’r person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater a atgyfeirir gan GCC atgyfeirio’r mater hwnnw i ymchwilio iddo o dan adran 125 oni bai—
a
bod y person yn dyfarnu nad yw’r mater yn gymwys i’w atgyfeirio ymlaen o dan adran 120, neu
b
ei bod yn ofynnol i’r person drwy adran 121 atgyfeirio’r mater yn uniongyrchol i banel addasrwydd i ymarfer.
2
Caiff y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i fater atgyfeirio’r mater, ar unrhyw adeg, i banel gorchmynion interim (yn ychwanegol at wneud atgyfeiriad neu ddyfarniad o dan is-adran (1)).
3
Rhaid i GCC drwy reolau wneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ragarweiniol a gaiff, yn benodol, ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—
a
un neu ragor o bersonau a benodir at y diben hwnnw, ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys tâl) y mae GCC yn penderfynu arnynt;
b
un neu ragor o aelodau o staff GCC.
4
Ond ni chaiff rheolau a wneir o dan is-adran (3) ddarparu i’r canlynol gynnal ystyriaeth ragarweiniol—
a
person sy’n aelod o—
i
GCC,
ii
y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal,
iii
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban, neu
iv
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon;
b
person sy’n aelod o banel addasrwydd i ymarfer;
c
person sy’n aelod o banel gorchmynion interim;
d
person rhagnodedig.
5
Rhaid i GCC wneud unrhyw drefniadau sy’n briodol yn ei farn ef i hwyluso cydweithredu rhwng—
a
person sydd wedi gwneud honiad bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer, a
b
y person sy’n rhoi ystyriaeth ragarweiniol i’r honiad.