12Caniatáu neu wrthod cais am amrywiadLL+C
(1)Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod cais o dan adran 11 (ond gweler is-adran (2)).
(2)Yn achos cais o dan adran 11(1)(b), caiff Gweinidogion Cymru (yn lle caniatáu neu wrthod y cais)—
(a)amrywio amod ar delerau gwahanol i’r rhai a bennir yn y cais, neu
(b)gosod amod arall ar gofrestriad y darparwr (pa un ai yn lle’r amod y gwnaeth y darparwr gais i’w amrywio neu ei ddileu neu’n ychwanegol at yr amod hwnnw).
(3)Ond dim ond os yw gofynion adrannau 18 i 20 wedi eu bodloni (i’r graddau y bônt yn gymwys) y mae amrywiad o dan yr adran hon yn cymryd effaith.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C5A. 12(1) addaswyd (dd.) (29.4.2019) gan Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 6, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2019 (O.S. 2019/864), ergl. 9
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 12 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)