RHAN 6LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 2LL+CGWEITHDREFNAU RHAGARWEINIOL

AdolyguLL+C

133Atgyfeirio gan GCC ar gyfer achos adolyguLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â pherson cofrestredig—

(a)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a GCC o dan adran 126(3)(d);

(b)ymgymeriadau y cytunir arnynt rhwng y person a phanel addasrwydd i ymarfer o dan adran 136(1), 152(5) neu (6), 153(4), 154(4) neu 155(7);

(c)gorchymyn cofrestru amodol a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(7), 152(8)(c), 153(6) neu (7), 154(8)(c) neu 155(10)(c);

(d)gorchymyn atal dros dro a wneir (neu a gadarnheir neu a amrywir) o dan adran 138(8), 152(8)(d), 153(9)(c) neu 154(6) neu (7).

(2)Os yw GCC yn meddwl ar unrhyw adeg ei bod yn ddymunol y dylai panel addasrwydd i ymarfer adolygu addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff GCC atgyfeirio’r achos i’r panel i gynnal adolygiad (gweler Pennod 5).

(3)Ond rhaid i GCC atgyfeirio achos i banel addasrwydd i ymarfer i gynnal adolygiad o addasrwydd i ymarfer person cofrestredig os oes gan GCC reswm dros gredu—

(a)pan fo’r person wedi cytuno ar ymgymeriad o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)⁠(a) neu (b), fod y person wedi torri’r ymgymeriad, neu

(b)pan fo’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cofrestru amodol o’r math a grybwyllir yn is-adran (1)(c), fod y person wedi torri unrhyw amod o’r gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 133 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 133 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)