xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)Rhaid i’r panel waredu’r mater mewn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (9).
(3)Caiff y panel wneud gorchymyn o dan adran 135(2) ar gyfer dileu cofnod y person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb.
(4)Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig; yn yr achos hwnnw, mae adran 136(2) a (3) yn gymwys mewn cysylltiad ag ymgymeriadau o’r fath.
(5)Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig.
(6)Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
(7)Caiff y panel wneud gorchymyn cofrestru amodol, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person.
(8)Caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro.
(9)Caiff y panel wneud gorchymyn dileu, sef gorchymyn ar gyfer dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig yn y gofrestr.
(10)Ond ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu os yr unig sail y mae wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer arni yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 138 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 138 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)