RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 3GWAREDU ACHOSION ADDASRWYDD I YMARFER
138Gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer: canfyddiad o amhariad
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer.
(2)
Rhaid i’r panel waredu’r mater mewn un o’r ffyrdd a grybwyllir yn is-adrannau (3) i (9).
(3)
Caiff y panel wneud gorchymyn o dan adran 135(2) ar gyfer dileu cofnod y person cofrestredig o’r gofrestr drwy gytundeb.
(4)
Caiff y panel gytuno ar ymgymeriadau â’r person cofrestredig; yn yr achos hwnnw, mae adran 136(2) a (3) yn gymwys mewn cysylltiad ag ymgymeriadau o’r fath.
(5)
Caiff y panel benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person cofrestredig.
(6)
Caiff y panel roi rhybudd i’r person cofrestredig mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
(7)
Caiff y panel wneud gorchymyn cofrestru amodol, sef gorchymyn sy’n gosod amodau ar gofrestriad y person.
(8)
Caiff y panel wneud gorchymyn atal dros dro, sef gorchymyn sy’n atal cofrestriad y person cofrestredig dros dro.
(9)
Caiff y panel wneud gorchymyn dileu, sef gorchymyn ar gyfer dileu’r cofnod sy’n ymwneud â’r person cofrestredig yn y gofrestr.
(10)
Ond ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu os yr unig sail y mae wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer arni yw iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol.