Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

139Gwarediadau: darpariaeth bellach ynghylch gorchmynion cofrestru amodol a gorchmynion atal dros droLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i orchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a

(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(2)Caiff gorchymyn cofrestru amodol bennu—

(a)bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn;

(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (1)(b).

(3)Rhaid i orchymyn atal dros dro bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na blwyddyn; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.

(4)Caiff gorchymyn atal dros dro bennu bod rhaid adolygu’r gorchymyn yn unol â’r trefniadau a bennir yn y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 139 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 139 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)