RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CCOFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriadLL+C

14Cais i ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaethLL+C

(1)Os yw darparwr gwasanaeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru i ganslo ei gofrestriad, rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu’r cais oni bai eu bod wedi cymryd camau gyda golwg ar ganslo’r cofrestriad o dan adran 15 neu 23.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ynghylch caniatáu cais i ganslo o dan yr adran hon i’r darparwr gwasanaeth.

(3)Mae canslo o dan yr adran hon yn cymryd effaith—

(a)ar y diwrnod sydd 3 mis ar ôl y diwrnod y mae’r darparwr gwasanaeth yn cael yr hysbysiad, neu

(b)ar unrhyw ddiwrnod cynharach a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 14 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(d)