RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 4GORCHMYNION INTERIM AC ADOLYGU GORCHMYNION INTERIM

148Estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlys

(1)

Caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys i orchymyn interim gael ei estyn neu ei estyn ymhellach.

(2)

Ar gais, caiff y tribiwnlys—

(a)

dirymu’r gorchymyn interim,

(b)

yn achos gorchymyn cofrestru amodol, dirymu neu amrywio unrhyw amod,

(c)

estyn, neu estyn ymhellach, y gorchymyn am hyd at 12 mis, neu

(d)

peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn nac i’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.

(3)

Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—

(a)

gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach o dan yr adran hon,

(b)

gorchymyn interim a amrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac

(c)

gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(c) neu (d)).