148Estyn gorchymyn interim gan y tribiwnlysLL+C
(1)Caiff GCC wneud cais i’r tribiwnlys i orchymyn interim gael ei estyn neu ei estyn ymhellach.
(2)Ar gais, caiff y tribiwnlys—
(a)dirymu’r gorchymyn interim,
(b)yn achos gorchymyn cofrestru amodol, dirymu neu amrywio unrhyw amod,
(c)estyn, neu estyn ymhellach, y gorchymyn am hyd at 12 mis, neu
(d)peidio â gwneud unrhyw newid i’r gorchymyn nac i’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer.
(3)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at orchymyn interim yn cynnwys cyfeiriad at—
(a)gorchymyn interim fel y’i hestynnir neu fel y’i hestynnir ymhellach o dan yr adran hon,
(b)gorchymyn interim a amrywir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(b)), ac
(c)gorchymyn cofrestru amodol interim amnewidiol neu orchymyn atal dros dro interim amnewidiol a wneir yn sgil adolygiad (gweler adran 147(1)(c) neu (d)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 148 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 148 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)