RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
15Canslo heb gais
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a)
nid yw’r darparwr gwasanaeth bellach yn darparu unrhyw wasanaethau rheoleiddiedig;
(b)
nid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bellach fod y darparwr gwasanaeth yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth (gweler adran 9);
(c)
nid oes unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â phob man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef (ac mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud cais i amrywio’r cofrestriad a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 11(2) wedi dod i ben);
(d)
mae’r darparwr gwasanaeth neu unigolyn cyfrifol sydd wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(e)
mae unrhyw berson arall wedi ei gollfarnu o drosedd berthnasol, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd berthnasol, mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth;
(f)
nid yw gwasanaeth rheoleiddiedig a ddarperir gan y darparwr gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r gofynion a grybwyllir yn adran 7(1)(d) i’r graddau y bônt yn gymwys i’r gwasanaeth hwnnw.
(2)
At ddibenion is-adran (1)(d) ac (e), mae’r canlynol yn droseddau perthnasol—
(a)
trosedd o dan y Ddeddf hon neu reoliadau a wneir odani;
(b)
trosedd o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) neu reoliadau a wneir odani;
(c)
unrhyw drosedd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn ei gwneud yn briodol i’r cofrestriad gael ei ganslo (gan gynnwys tramgwydd a gyflawnwyd y tu allan i Gymru a Lloegr a fyddai’n drosedd pe bai wedi ei gyflawni yng Nghymru a Lloegr).
(3)
Ni chaniateir i gofrestriad gael ei ganslo o dan yr adran hon oni bai bod gofynion adrannau 16 a 17 wedi eu bodloni (ond nid yw hyn yn effeithio ar bŵer Gweinidogion Cymru i ganslo cofrestriad ar frys o dan adran 23).