RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER
PENNOD 5ACHOSION ADOLYGU
152Adolygu ymgymeriadau: gwarediadau gan banel addasrwydd i ymarfer
1
Mae’r adran hon yn pennu’r gwarediadau posibl y caniateir eu gwneud gan banel addasrwydd i ymarfer sydd wedi cwblhau adolygiad o dan adran 151(2) neu (7) o addasrwydd i ymarfer berson cofrestredig sydd wedi cytuno ar ymgymeriadau.
2
Os yw’r person cofrestredig wedi gwneud cais o dan adran 92 i’r cofnod sy’n ymwneud â’r person gael ei ddileu o’r gofrestr drwy gytundeb, caiff y panel wneud gorchymyn i’r cofnod hwnnw gael ei ddileu.
3
Os yw’r panel yn dyfarnu nad oes amhariad bellach ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer—
a
rhaid i’r panel ddirymu’r ymgymeriadau, a
b
caiff y panel wneud y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—
i
rhoi cyngor i’r person ar unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’r achos;
ii
rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol.
4
Os yw’r person cofrestredig yn cyfaddef bod amhariad ar ei addasrwydd i ymarfer, neu os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer, caiff y panel wneud gwarediad a bennir yn is-adran (5) neu (6).
5
Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig fod yr ymgymeriadau yn parhau i gael effaith heb unrhyw amrywiadau.
6
Caiff y panel gytuno â’r person cofrestredig y caniateir i’r naill neu’r llall neu’r ddau o’r amrywiadau a ganlyn gael eu gwneud i unrhyw ymgymeriad—
a
amrywio ei delerau;
b
estyn neu leihau’r cyfnod y mae i gael effaith ar ei gyfer.
7
O dan is-adran (6)(b), ni chaiff estyniad o’r cyfnod y mae unrhyw ymgymeriad i gael effaith ar ei gyfer fod am fwy na 3 blynedd.
8
Os yw’r panel yn dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer, caiff y panel ddirymu’r ymgymeriadau a phenderfynu—
a
peidio â chymryd unrhyw gamau pellach mewn cysylltiad â’r person,
b
rhoi rhybudd i’r person mewn cysylltiad ag ymddygiad neu berfformiad yn y dyfodol,
c
gwneud gorchymyn cofrestru amodol,
d
gwneud gorchymyn atal dros dro, neu
e
yn ddarostyngedig i is-adran (9), gwneud gorchymyn dileu.
9
Ni chaiff y panel wneud gorchymyn dileu mewn achos pan fo’r panel wedi dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer ar sail iechyd corfforol neu iechyd meddwl andwyol, ac nid ar unrhyw sail arall yn adran 117.