(1)Mae is-adrannau (2) a (3) yn gymwys i orchymyn cofrestru amodol a wneir o dan adran 152(8)(c), 154(8)(c) neu 155(10)(c).
(2)Rhaid i’r gorchymyn bennu—
(a)yr amodau y mae rhaid i’r person y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef gydymffurfio â hwy, a
(b)y cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 153 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(3)Caiff y gorchymyn bennu—
(a)bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn;
(b)amodau gwahanol sy’n cael effaith ar gyfer cyfnodau gwahanol; ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r terfyn a grybwyllir yn is-adran (2)(b).
(4)Mae is-adrannau (5) a (6) yn gymwys i orchymyn atal dros dro a wneir o dan adran 152(8)(d) neu 153(9)(c).
(5)Rhaid i’r gorchymyn bennu’r cyfnod y mae’r gorchymyn i gael effaith ar ei gyfer, na chaniateir iddo fod yn hwy na 3 blynedd; ond gweler adran 154 ynglŷn ag estyniadau o’r cyfnod hwnnw yn sgil adolygiad.
(6)Caiff y gorchymyn bennu bod rhaid ei adolygu yn unol â threfniadau a bennir yn y gorchymyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 156 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 156 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(e) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)