RHAN 6GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL: ADDASRWYDD I YMARFER

PENNOD 6APELAU AC ATGYFEIRIADAU I’R TRIBIWNLYS

I1I2158Apelau yn erbyn penderfyniadau panel addasrwydd i ymarfer

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo panel addasrwydd i ymarfer—

a

ar ôl dyfarnu bod amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer (“canfyddiad o amhariad”), yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau pellach o dan adran 138(5);

b

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn rhoi rhybudd o dan adran 138(6);

c

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn cofrestru amodol o dan adran 138(7);

d

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn atal dros dro o dan adran 138(8);

e

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud gorchymyn dileu o dan adran 138(9);

f

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 152(8) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o ymgymeriadau);

g

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 153(6), (7) neu (9) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn cofrestru amodol);

h

yn dilyn canfyddiad o amhariad, yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 154(6), (7), (8) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro);

i

yn gwneud penderfyniad mewn achos adolygu o dan adran 155(9) neu (10) (gwarediadau yn dilyn adolygiad o orchymyn atal dros dro amhenodol).

2

Caiff y person y gwnaed penderfyniad o fath a restrir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag ef apelio i’r tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad.

3

Rhaid i apêl gael ei dwyn o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad i’r person o dan sylw.

4

Ond caiff y tribiwnlys ganiatáu i apêl gael ei gwneud iddo ar ôl diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (3) os yw wedi ei fodloni bod rheswm da dros y methiant i apelio cyn diwedd y cyfnod hwnnw (a thros unrhyw oedi cyn gwneud cais am ganiatâd i apelio ar ôl yr amser priodol).

5

Ar apêl o dan yr adran hon, caiff y tribiwnlys—

a

cadarnhau’r penderfyniad,

b

rhoi penderfyniad arall y gallai’r panel addasrwydd i ymarfer fod wedi ei wneud yn lle’r penderfyniad y gwneir apêl yn ei erbyn, neu

c

anfon yr achos yn ôl i GCC i’w waredu yn unol â chyfarwyddydau’r tribiwnlys.