RHAN 7GORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG
166Amodau ar gyfer gwneud gorchymyn gwahardd
(1)
Rhaid i reoliadau a wneir o dan adran 165 ragnodi’r amgylchiadau pan gaiff panel addasrwydd i ymarfer wneud gorchymyn gwahardd.
(2)
Caiff y rheoliadau, yn benodol, ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd mewn cysylltiad â pherson oni bai bod un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)
bod y person wedi ei gollfarnu o drosedd o fath rhagnodedig;
(b)
bod y person wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd o fath rhagnodedig;
(c)
bod y person wedi ei gynnwys ar restr wahardd;
(d)
bod corff perthnasol wedi gwneud dyfarniad i’r perwyl bod amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer;
(e)
bod y panel wedi ei fodloni bod y person wedi methu â chyrraedd unrhyw safon ymddygiad a bennir o dan adran 173;
(f)
bod y panel yn meddwl bod gwneud y gorchymyn yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.
(3)
Yn is-adran (2) mae i “corff perthnasol” a “rhestr wahardd” yr un ystyr ag yn adran 117 (seiliau amhariad ar addasrwydd i ymarfer).