xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 7LL+CGORCHMYNION SY’N GWAHARDD GWAITH MEWN GOFAL CYMDEITHASOL: PERSONAU ANGHOFRESTREDIG

167Gorchmynion gwahardd interimLL+C

(1)Rhaid i reoliadau o dan adran 165 awdurdodi i orchmynion gwahardd interim gael eu gwneud.

(2)Mae gorchymyn gwahardd interim yn orchymyn a wneir gan banel addasrwydd i ymarfer sy’n gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd rheoleiddiedig wrth aros am benderfyniad o ran pa un ai i wneud gorchymyn gwahardd ai peidio.

(3)Rhaid i’r rheoliadau ddarparu na chaiff panel wneud gorchymyn gwahardd interim oni bai ei fod yn meddwl bod gwneud gorchymyn ar frys yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, neu fod hynny fel arall er budd y cyhoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 167 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 167 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(f) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)