C4C3C2C1RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
C4C3C2C1PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Gofynion hysbysiadau
I1I217Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn hysbysiad gwella
1
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
a
bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd, neu
b
bod yr wybodaeth a bennir felly wedi ei darparu,
o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â chanslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.
2
Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr wybodaeth a bennir mewn hysbysiad gwella wedi ei darparu o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.
3
Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y camau a bennir mewn hysbysiad gwella wedi eu cymryd o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, rhaid iddynt naill ai—
a
rhoi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella, neu
b
hysbysu’r darparwr—
i
nad yw’r camau wedi eu cymryd,
ii
am ddyddiad newydd erbyn pryd y mae rhaid cymryd y camau,
iii
y bydd arolygiad o dan adran 33 o’r gwasanaeth rheoleiddiedig neu’r man y mae’r hysbysiad gwella yn ymwneud ag ef yn cael ei gynnal ar ôl y dyddiad hwnnw, a
iv
y byddant, ar ôl yr arolygiad hwnnw, os nad yw’r camau wedi eu cymryd, yn bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.
4
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt hysbysu’r darparwr gwasanaeth eu bod wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen i ganslo neu amrywio cofrestriad y darparwr ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.
5
Os nad yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni o hyd, ar ôl yr arolygiad, fod y camau a bennir yn yr hysbysiad gwella wedi eu cymryd, rhaid iddynt roi hysbysiad o benderfyniad i’r darparwr gwasanaeth sy’n datgan bod cofrestriad y darparwr i’w ganslo neu i’w amrywio ar y sail a bennir yn yr hysbysiad gwella.
6
Rhaid i hysbysiad o benderfyniad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5)—
a
datgan y rhesymau dros y penderfyniad (gan gynnwys y seiliau dros ganslo neu amrywio), a
b
esbonio’r hawl i apelio a roddir gan adran 26.
7
Mae penderfyniad a ddatgenir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (2), (3)(a) neu (5) yn cymryd effaith—
a
os na wneir apêl yn erbyn y penderfyniad, ar y diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn adran 26(2), neu
b
os gwneir apêl, ar y diwrnod a bennir gan y tribiwnlys wrth ddyfarnu ar yr apêl neu ar y diwrnod y tynnir yr apêl yn ôl.
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)