RHAN 9CYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.
177Awdurdodau perthnasol
1
Yn y Rhan hon yr awdurdodau perthnasol yw—
a
Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru,
b
Cyngor y Gweithlu Addysg,
c
pob awdurdod lleol,
d
pob Bwrdd Iechyd Lleol,
e
Ymddiriedolaeth GIG,
f
awdurdod tân ac achub Cymreig,
g
Cyngor Iechyd Cymuned, ac
h
unrhyw berson arall a ragnodir.
2
Yn is-adran (1)—
a
ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei chyfansoddi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42);
b
ystyr “awdurdod tân ac achub Cymreig” yw awdurdod yng Nghymru sydd wedi ei gyfansoddi drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
c
ysytr “Cyngor Iechyd Cymuned” yw Cyngor Iechyd Cymuned sy’n parhau neu a sefydlwyd o dan adran 182 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p.42).