Valid from 03/04/2017

RHAN 9LL+CCYDWEITHREDU A CHYDWEITHIO GAN Y CYRFF RHEOLEIDDIOL ETC.

180Dirprwyo swyddogaethau i gorff rheoleiddiol arallLL+C

(1)Caiff corff rheoleiddiol ddirprwyo unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau perthnasol i’r corff rheoleiddiol arall os ydynt yn cytuno y bydd dirprwyo o’r fath—

(a)yn cael effaith gadarnhaol ar y modd y mae’r swyddogaeth i’w harfer, neu

(b)yn helpu’r corff sy’n dirprwyo i gyflawni ei amcanion cyffredinol.

(2)Ond ni chaniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo i’r corff rheoleiddiol arall os yw’r corff arall yn meddwl y gall dirprwyo o’r fath fod yn niweidiol—

(a)i’r modd y mae’r corff arall yn arfer ei swyddogaethau, neu

(b)i gyflawni amcanion cyffredinol y corff arall.

(3)Er gwaethaf is-adran (1), ni chaiff GCC ddirprwyo—

(a)ei swyddogaethau gwneud rheolau, neu

(b)ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag achosion addasrwydd i ymarfer.

(4)Caiff dirprwyo o dan is-adran (1) fod ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau o ran tâl) y cytunir arnynt rhwng y cyrff rheoleiddiol.

(5)Caniateir i swyddogaeth gael ei dirprwyo o dan is-adran (1) yn gyfan gwbl neu i unrhyw raddau llai y cytunir arnynt gan y cyrff rheoleiddiol.

(6)Nid yw dirprwyo o dan is-adran (1) yn effeithio—

(a)ar unrhyw atebolrwydd neu gyfrifoldeb sydd gan y corff sy’n dirprwyo’r swyddogaeth am ei harfer, nac

(b)ar allu’r corff hwnnw i arfer y swyddogaeth honno neu i wneud trefniadau eraill mewn perthynas â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 180 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)