RHAN 10AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
I1I2183Ymchwiliadau
1
Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â darparu gofal a chymorth.
2
Cyn i ymchwiliad ddechrau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ei fod i’w gynnal yn breifat.
3
Os na roddir cyfarwyddyd, caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad benderfynu cynnal yr ymchwiliad, neu ran ohono, yn breifat.
4
Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (pwerau mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol) yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad lleol o dan yr adran honno.
5
Rhaid cyhoeddi adroddiad y person sy’n cynnal yr ymchwiliad oni bai bod Gweinidogion Cymru yn meddwl bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â’i gyhoeddi (neu unrhyw ran ohono).