xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru beri i ymchwiliad gael ei gynnal i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â darparu gofal a chymorth.
(2)Cyn i ymchwiliad ddechrau, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ei fod i’w gynnal yn breifat.
(3)Os na roddir cyfarwyddyd, caiff y person sy’n cynnal yr ymchwiliad benderfynu cynnal yr ymchwiliad, neu ran ohono, yn breifat.
(4)Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) (pwerau mewn perthynas ag ymchwiliadau lleol) yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag ymchwiliad lleol o dan yr adran honno.
(5)Rhaid cyhoeddi adroddiad y person sy’n cynnal yr ymchwiliad oni bai bod Gweinidogion Cymru yn meddwl bod amgylchiadau eithriadol dros beidio â’i gyhoeddi (neu unrhyw ran ohono).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 183 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 183 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(i) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)