RHAN 11DARPARIAETHAU TERFYNOL
188Dod i rym
(1)
Daw darpariaethau’r Ddeddf hon (ac eithrio’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190) i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(2)
Mae’r adran hon ac adrannau 186, 187, 189 a 190 yn dod i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
(3)
Caiff gorchymyn o dan yr adran hon—
(a)
pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion neu ardaloedd gwahanol;
(b)
cynnwys unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.